Gwobrau Cymdeithas Ddysgedig Cymru
30 Mai 2019
Mae tri o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael medalau gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyfernir Medalau Dillwyn y Gymdeithas i gydnabod ymchwil rhagorol ar ddechrau gyrfa. Roedd Dr Rebecca Melen o’r Ysgol Cemeg yn un o’r ddau academydd a gafodd fedal Dillwyn ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).
Yn ei gyrfa hyd yma, mae Dr Melen wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fyd cemeg, ym meysydd catalysis ac ynni.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Melen: “Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae fy ngwaith ymchwil ym maes catalysis, ac mae catalyddion yn gweithio drwy ostwng y rhwystr ynni ar gyfer adwaith cemegol, gan wneud adweithiau lawer yn fwy effeithlon o ganlyniad. Mae’n rhaid i mi ddiolch o waelod calon i fy ngrŵp ymchwil am bopeth maen nhw wedi’i wneud i fy helpu i lwyddo yn y maes hwn.”
Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae gwaith Dr Fox wedi ystyried ymgysylltu gwleidyddol ymhlith pobl ifanc, yn benodol yn ystod Refferendwm yr UE a Brexit, ac etholiad cyffredinol 2017. Mae ei waith ymchwil diweddar hefyd wedi archwilio gwirfoddoli ymhlith yr ifanc ac a all hynny helpu i ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth.
Yn ôl Dr Fox, sy’n gydymaith ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD): “Gall bywyd ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa fod yn hynod heriol ac anwadal, ac mae’n foddhaol iawn gweld gwaith mor galed yn cael cydnabyddiaeth. Rwy’n ddiolchgar dros ben i fy nghydweithwyr am fy enwebu a chynnig cymorth ac arweiniad amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa academaidd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw er mwyn helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr cymdeithasol yng Nghymru.”
Mae gwaith Dr Sloan wedi edrych ar sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Twitter, i ddatblygu ymchwil cymdeithasol. Mae ei waith yn y maes hwn yn mynd y tu hwnt i ofyn beth all Twitter ei ddweud wrth bobl, i ofyn cwestiynau mwy cymhleth am foesoldeb a methodoleg y gwaith ymchwil hwn.
Yn ôl Dr Sloan: “Teimlaf yn wylaidd iawn o gael y wobr hon. Mae’n fraint hynod annisgwyl sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.”