Meddylfryd byd-eang, camau lleol
23 Mai 2019
Yn ddiweddar cynhaliodd Canolfan Gofal yn Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) gyfres o ddigwyddiadau dros wythnos i amlygu heriau'r byd go iawn a all godi wrth weithredu tystiolaeth wedi'i chydblethu'n lleol.
Gan ddechrau dydd Sadwrn 27 Ebrill 2019, cynhaliwyd hyfforddiant 5 diwrnod Sefydliad Joanna Briggs (JBI) ar adolygiad systematig cynhwysfawr gyda 9 cyfranogwr mewnol a 7 cyfranogwr allanol yn mynychu o fannau mor bell â Norwy. Cynlluniwyd y cwrs 5 diwrnod i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr ar gyfer datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol, ar sail dull a meddalwedd SUMARI Sefydliad Joanna Briggs.
Yn ystod yr wythnos o ddigwyddiadau, ddydd Mercher 1 Mai croesawodd y ganolfan Gyfarwyddwyr o 14 sefydliad ar draws Ewrop i'r cyfarfod blynyddol rhanbarthol o Gyfarwyddwyr Ewropeaidd, gyda chinio'n dilyn yn Neuadd Aberdâr gydag adloniant Cymreig, dan nawdd Wolters Kluwer.
Ddydd Iau 2 Mai hwylusodd WCEBC weithdy cydblethu realaidd, a hwyluswyd gan yr Athro Rycroft-Malone a Dr Lynne Williams o Brifysgol Bangor ar gyfer y cyfarwyddwyr Ewropeaidd. Daeth dros 30 o bobl i'r digwyddiad hwn.
Penllanw'r wythnos oedd symposiwm ddydd Gwener 3 Mai. Mae'r symposiwm hwn yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir gan ganolfannau rhanbarthol Ewrop Sefydliad Joanna Briggs. Roedd Prifysgol Caerdydd yn cynnal y symposiwm am y tro cyntaf eleni. Roedd y symposiwm yn gyfle i drafod cydblethu tystiolaeth a gweithredu tystiolaeth o fewn gofal iechyd.
Dywedodd Judith Carrier, Cyfarwyddwr WCEBC a chadeirydd grŵp rhanbarthol Ewrop yn 2019 'Gyda 150 o bobl yn bresennol yn y symposiwm, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Ewropeaidd, clinigwyr, staff iechyd cyhoeddus, arbenigwyr gwybodaeth ac academyddion roedd yn glo perffaith i wythnos brysur.'
Yn olaf cynhaliodd WCEBC ddau ddigwyddiad hyfforddi rhwng 4-9 Mai ar gyfer rhaglen cymrodoriaeth glinigol ar sail tystiolaeth JBI a hyfforddi'r hyfforddwr CSR JBI a hwyluswyd gan yr Athro Zac Munn, cyfarwyddwr rhaglen Trosglwyddo Gwyddoniaeth Sefydliad Joanna Briggs a methodolegydd datblygu adolygiad systematig a chanllawiau.
I gael rhagor o wybodaeth am WCEBC JBI ewch i'r wefan.