Tiwtor personol y flwyddyn
17 Mai 2019
Mae darlithydd mewn Rheoli ac Ymddygiad Sefydliadol wedi cael cydnabyddiaeth am ei gefnogaeth i israddedigion ac ôl-raddedigion drwy system tiwtora personol Prifysgol Caerdydd.
Derbyniodd Robin Burrow, o Ysgol Busnes Caerdydd, Wobr Tiwtor Personol y Flwyddyn mewn seremoni flynyddol sy’n gwobrwyo ymrwymiad y rhai a enwebir at gyfoethogi profiad y myfyrwyr.
Mae Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr yn cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac maent yn gyfle i fyfyrwyr enwebu’r aelodau staff a chyd-fyfyrwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w hastudiaethau a’u profiad.
Dywedodd Dr Burrow: “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon. Roedd yn gwbl annisgwyl gan fy mod i’n gwybod pa mor galed mae fy nghydweithwyr yn gweithio i gefnogi myfyrwyr fel tiwtoriaid personol...”
I fod yn gymwys ar gyfer Gwobr Tiwtor Personol y Flwyddyn, rhaid i’r tiwtoriaid fod wedi:
- Cynnal polisi ‘drws agored’ yn ystod oriau swyddfa fel eu bod ar gael pan fo’u hangen;
- Ymdrechu i helpu’u myfyrwyr lle bynnag y bo’n bosibl;
- Cyfeirio’n addas at wasanaethau cefnogi yn ogystal â bod yn rhagweithiol wrth ddatrys y problemau mae myfyrwyr yn eu hwynebu (lle bo’n briodol).
Yn 2019, gwelwyd y nifer uchaf erioed o enwebiadau, gan gydnabod cyfraniad anhygoel staff a myfyrwyr i Brifysgol Caerdydd.
Hon oedd degfed flwyddyn y gwobrau a ddathlwyd mewn seremoni arbennig ddydd Iau 10 Mai yn y Neuadd Fawr ar Blas y Parc.
I weld rhestr lawn o’r pymtheg enillydd, ewch i wefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.