Cymdeithasu Craff
21 Mai 2019
Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd ar y llwybr at ddealltwriaeth ddigidol diolch i gwrs wyth wythnos a gynhelir gan un o brif asiantaethau marchnata'r cyfryngau cymdeithasol yn y DU.
Dewiswyd y 10 myfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd sy'n dymuno bod yn gurus y cyfryngau cymdeithasol o blith dros 100 o ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hyfforddi bwrpasol a gynlluniwyd gan y cyn-fyfyriwr a sylfaenydd Populate Social, Daniel Simmons.
Dros wyth sesiwn, bydd Dan a'i dîm o arbenigwyr y diwydiant yn cyflwyno dosbarthiadau meistr yn y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Instagram, Snapchat ac eraill.
Bydd y 10 myfyriwr yn ymdrin â dadansoddeg, strategaeth farchnata organig ac â thâl, bots sgwrsio a hysbysebu dylanwadwyr gyda chymorth astudiaethau achos o'r byd real.
Person Busnes Ifanc y Flwyddyn
Graddiodd Dan o Ysgol Busnes Caerdydd yn 2015, lle'r astudiodd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol), ac ers hynny mae wedi ennill gwobr Santander Spark ac wedi'i gydnabod yn Berson Busnes Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd.
Dywedodd: “Mae'r academi yn y bôn yn ffurfioli’r berthynas sydd wedi bod rhyngom ni â Phrifysgol Caerdydd dros y blynyddoedd ers i fi raddio. Ac mae'n ymateb i'r bwlch sgiliau yma yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach ym maes cyfryngau cymdeithasol...”
Prifysgolion, busnesau a diwydiant
Ym mis Tachwedd 2018, datgelodd Mynegai Busnesau ac Elusennau Banc Lloyds nad oes gan ychydig dan hanner (45%) o BBaChau Cymru'r sgiliau digidol sylfaenol a allai sbarduno twf.
Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn rhan o fuddsoddiad gan y llywodraeth o £20 miliwn i ddod â phrifysgolion, busnesau ac arbenigwyr diwydiant at ei gilydd i sicrhau bod gan bobl o bob oed y sgiliau digidol sydd eu hangen.
Ond mae Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn dadlau bod buddsoddi ar lawr gwlad hefyd yn bwysig i oresgyn y bwlch sgiliau digidol.
Dywedodd: “Rydym ni wedi gweld cymaint o lwyddiannau drwy ein lleoliadau myfyrwyr dros y blynyddoedd, o ran y sefydliadau a'r myfyrwyr eu hunain...”
“Y ffordd rwyf i'n ei gweld hi yw mai'r hyn mae Dan yn ei wneud yw diogelu ein myfyrwyr at y dyfodol er mwyn iddyn nhw allu llenwi'r bylchau mae diwydiant yng Nghymru a gweddill y DU yn methu â recriwtio iddynt.”
Safon y Diwydiant
Ochr yn ochr â phrofiad ymarferol, mae'r myfyrwyr hefyd yn gweithio at y cymhwyster Facebook Blueprint.
Mae'r cymhwyster hwn sy'n safonol yn y diwydiant yn canolbwyntio ar hanfodion marchnata ar Facebook, Instagram, Messenger ac Audience Network.
Ychwanegodd Dan: “Mae cymhwyster Facebook yn cynnig rhywbeth ychwanegol i'r myfyrwyr. Pecyn cymorth, gyda chymeradwyaeth gan un o'r chwaraewyr mwyaf ym maes y cyfryngau cymdeithasol, sy'n dangos ffyrdd y gallant ddefnyddio'r platfformau hyn yn eu busnesau eu hunain neu ble bynnag y byddant yn gweithio.
“Y ffordd rwyf i'n ei gweld hi yw mai'r hyn mae Dan yn ei wneud yw diogelu ein myfyrwyr at y dyfodol er mwyn iddyn nhw allu llenwi'r bylchau mae diwydiant yng Nghymru a gweddill y DU yn methu â recriwtio iddynt.”
Dywedodd Bethany Burnage, un o'r deg myfyriwr Populate Social: “Mae bod yn rhan o'r Academi Cyfryngau Cymdeithasol yn Populate wedi cynnig cyfle gwych i fi weld y damcaniaethau a'r syniadau rwyf i wedi'u dysgu mewn darlithoedd ar waith yn ymarferol.”
Gydag ail semester y lleoliad yn tynnu tua'i derfyn, mae'r myfyrwyr yn gweithio ar gomisiynau byw i Populate Social.
Mae hwn yn gyfle i'r myfyrwyr deilwra eu gwaith i feysydd o ddiddordeb, gan gynnwys: datblygu busnes, cynnwys, adrodd a dadansoddeg a hysbysebu â thâl yn y gobaith o sicrhau interniaeth llawn amser dros yr haf yn Populate Social.
“Mae marchnata'r cyfryngau cymdeithasol yn bendant yn yrfa yr hoffwn ei dilyn diolch i fy amser yn Populate gyda'r tîm rhyfeddol yno!”