Mae Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd ar y brig ymhlith Ysgolion yng Nghymru a Lloegr
20 Mai 2019
Mae canlyniadau newydd The Complete University Guide 2020 wedi datgelu yn swyddogol bod Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd nawr ar y brig ymhlith Ysgolion ar draws Cymru a Lloegr, a’r ail uchaf ar draws y DU.
Mae’r Complete University Guide yn rhestru dros 130 o brifysgolion y DU ar sail safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd gwaith ymchwil a rhagolygon i raddedigion ac mae nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion yn ei ddefnyddio gan nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion i helpu i lywio eu penderfyniadau.
Dywedodd yr Athro Mark Gumbleton, Pennaeth yr Ysgol, ‘Rydym wrth ein bodd ein bod mor uchel yn y safleoedd prifysgol fawreddog hyn. Mae’n wobr i ymrwymiad ac arbenigedd ein staff yn ogystal ag arloesedd ein darpariaeth addysg. Mae ein rhaglen flaengar MPharm yn ymdrechu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol fel fferyllwyr yn y byd modern.”
Dywedodd Dr Bernard Kingston, Cadeirydd TheCompleteUniversityGuide.co.uk: “Mae’r dystiolaeth yn glir; mae’r pwyslais cynyddol, gan gynnwys y buddsoddiad ariannol, ar gyflogadwyedd a chynllunio gyrfa o fewn adrannau academaidd a gwasanaethau myfyrwyr yn dwyn ffrwyth. Mae hon bellach yn elfen ganolog o gynlluniau strategol nifer o sefydliadau, sy'n cyflwyno rhaglenni arloesol o ddigwyddiadau gyrfaoedd am bynciau penodol yn canolbwyntio ar fewnosod a chyfeirio at gyrchfannau graddedigion.