Cyhoeddi Coron Eisteddfod yr Urdd
20 Mai 2019
Mae'r Brifysgol yn cefnogi un o'r ddigwyddiadau pwysicaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni - y seremoni goroni.
Mae’r Goron yn cael ei hystyried yn un o’r prif wobrau llenyddol yn yr ŵyl ieuenctid flynyddol, a gynhelir eleni ym Mae Caerdydd.
Dadorchuddiwyd Coron eleni ar raglen Heno S4C, a bydd yn cael ei chyflwyno i awdur y darn gorau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau.
Iolo Edger, gemydd o Ben-y-bont ar Ogwr, creodd y Goron arian eleni. Cafodd ei ysbrydoli gan Gaenor Mai Jones o ardal Pontypridd, sy'n cyflwyno'r Goron i'r Eisteddfod er cof am ei rhieni.
Cyfarfu rhieni Gaenor wrth weithio i'r Urdd yn Aberystwyth yn ystod y 50au.
Dywedodd Gaenor: “Mae gen i lawer o resymau i ddweud diolch i'r Urdd! Rwy’n edrych ymlaen at y seremoni coroni yn ystod wythnos yr Eisteddfod ac rwy'n gallu dychmygu pa mor gyffrous oedd fy nhad wrth iddo ennill Coron Maesteg yn 1953.”
Mae’r goron wedi’i gwneud o arian a'r brif thema yw'r cysyniad o unigolion yn codi eu dwylo mewn llawenydd i ddathlu undod.
Dywedodd Iolo: “Fe wnaeth hanes rhieni Gaenor wneud i mi feddwl am undod pobl, am Gymru, ein diwylliant a'n hiaith. Dechreuais greu coron a oedd yn cyfleu'r undod hwnnw, undod trwy'r iaith Gymraeg a dathlu rhieni Gaenor yn cyfarfod pan oeddent yn ifanc, a chyfuno hynny â dathliad ieuenctid yr Urdd. ”
Mae'r Brifysgol yn noddi'r seremoni goroni, a gynhelir ddydd Gwener 31 Mai am 16:00.
Mae'r bartneriaeth gydag Eisteddfod yr Urdd 2019, a fydd yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin, yn rhan o ymrwymiad ‘cenhadaeth ddinesig’ y Brifysgol i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Bydd gan y Brifysgol bresenoldeb cryf ar y Maes gyda staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau.