Parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd yn chwilio am arweinydd
20 Mai 2019
Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am arweinydd academaidd eithriadol ar gyfer SPARK – Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd.
Mae SPARK yn fuddsoddiad cyfalaf a diwylliannol o bwys mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yng nghanol Campws Arloesedd amlddisgyblaethol y Brifysgol.
Mae mewn adeilad 12,000 milltir sgwâr sy’n benodol at y diben. Bydd ymchwilwyr SPARK sy’n gweithio yn adeilad 'Arloesedd Canolog' yn cael defnyddio adnoddau pwrpasol lle gellir meithrin partneriaethau newydd – labordai arloesedd a delweddu, cyfleusterau data diogel, 'desgiau dros dro' hyblyg a lleoedd creadigol, cymdeithasol i gwrdd ynddynt.
Bydd SPARK yn gartref i arbenigwyr yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda thimoedd rhyngddisgyblaethol yn rhychwantu meysydd o bwys cymdeithasol, gan gynnwys iechyd cyhoeddus, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd, yr economi, trosedd a diogelwch, gwasanaethau cyhoeddus, arloesedd cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Byddant wedi'u lleoli ochr yn ochr â rhanddeiliaid allanol ac yn gweithio ar draws ffiniau disgyblaethol i ddatblygu atebion cymwysedig i newidiadau cymdeithasol a chynhyrchu gwybodaeth ar y cyd.
Cyn i'r adeilad agor yn 2021, bydd y Cyfarwyddwr yn arwain, datblygu ac yn gweithredu cynllun gweithredol ar gyfer SPARK fel endid newydd, gan annog mwy o gysylltedd gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel defnyddwyr allweddol a buddiolwyr SPARK.
Yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter, greodd y fersiwn academaidd wreiddiol ar gyfer SPARK. Bydd yn mynd ati nawr i weithio ar ddatblygu prosiectau newydd a chanolbwyntio rhagor o amser ar ei waith academaidd ei hun, gan alluogi cyfarwyddwr amser llawn newydd i lywio llwyddiant SPARK yn y dyfodol.
"Bydd arwain parc gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd yn cynnig cyfle i ddatblygu ymchwil ryngddisgyblaethol drawsffurfiol a chyfrannu at lunio'r byd sydd o'n cwmpas," meddai'r Athro Delbridge.
"Bydd SPARK yn adeiladu ar arbenigedd y Brifysgol mewn gwyddorau cymdeithasol cymwysedig ac yn gartref i grŵp amrywiol o bartneriaid a rhanddeiliaid mewn cyfleuster newydd sbon sydd wedi'i adeiladu at y diben – Arloesedd Canolog. Mae disgwyl i’r adeilad fod yn barod erbyn 2021.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir o arweinyddiaeth academaidd lwyddiannus, ymrwymiad i ymchwil ryngddisgyblaethol wedi'i harwain gan y gwyddorau cymdeithasol, hanes o gyhoeddiadau ymchwil sy'n arwain y byd, a phrofiad o ddenu grantiau ymchwil sylweddol.
Yn ogystal, bydd yn gallu dangos llwyddiant ym meysydd academaidd blaenllaw ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan gydweithio â phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat a/neu'r trydydd sector.
Mae SPARK dafliad carreg o Lywodraeth Cymru, a'i nod yw manteisio ar botensial pellach Cymru fel 'labordy byw' lle gellir treialu datblygiadau arloesol polisi-ac-ymarfer, ar sail tystiolaeth, a'u gwerthuso in situ ac mewn amser real.
Mae’r parc yn adeiladu ar gryfder a dyfnder sylweddol Prifysgol Caerdydd yn y gwyddorau cymdeithasol ac mewn ymchwil ryngddisgyblaethol. Mae oddeutu hanner 24 Ysgol Academaidd Prifysgol Caerdydd yn meddu ar ddyfarniad ESRC, ac rydym yn gyson yn un o'r prifysgolion ESRC sy'n perfformio orau o ran gwerth dyfarniadau ymchwil.
Roedd ymdrech Prifysgol Caerdydd yn REF2014 yn arbennig o dda gan fod cynigion mawr ym meysydd busnes, addysg, newyddiaduraeth, cymdeithaseg a seicoleg wedi cyrraedd y chwe uned asesu uchaf am safon eu hymchwil.
I gael manyleb y swydd a manylion pellach, edrych ar y wefan Jobs yma.