Prin, byrhoedlog a heb fod yn digwydd eto ac eto
4 Ebrill 2019
Arweiniwyd y digwyddiad diweddaraf yng Nghyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd gan arweinydd blaenllaw ym maes tai a digartrefedd a Phrif Weithredwr prif elusen digartrefedd Cymru i bobl ifanc a menywod bregus.
Roedd ystafell lawn yn gwrando ar Dr Peter Mackie, Darllenydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a Frances Beecher yn esbonio beth sy’n gweithio a rhai o’r datrysiadau sy’n ymddangos ar hyn o bryd i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.
Yn dilyn cyflwyniad gan Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd a Chadeirydd y digwyddiad Helen Beddow, Dirprwy Bennaeth Marchnata Prifysgol Caerdydd, dechreuodd Dr Mackie ar y trafodaethau.
Tueddiadau digartrefedd
Dangosodd drwy gyfres o graffiau ac ystadegau sut mae digartrefedd yng Nghymru’n broblem nad ydym ni’n mynd i’r afael â hi.
Meddai Dr Mackie: “Mae digartrefedd yn broblem rydym ni wedi methu mynd i’r afael â hi. Rwy'n credu mai’r rheswm eich bod chi i gyd yma yw am fod digartrefedd i’w weld ar gynnydd yn ein dinas.”
Mewn cyflwyniad yn trafod tlodi, methiant cartrefu, methiant sefydliadol, cysylltiadau a phrofiadau, amlinellodd Dr Mackie achosion digartrefedd.
Esboniodd mai'r nod yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth ‘prin, byrhoedlog nad yw’n digwydd eto ac eto’, ond er mwyn gwneud hynny rhaid i ni ddeall yr achosion.
Arwain y ffordd
Aeth Dr Mackie ymlaen i esbonio sut mae Cymru'n arwain y ffordd, o safbwynt deddfwriaethol, wrth fynd i’r afael â digartrefedd.
Amlinellodd Ddeddf Tai (Cymru) 2014 sy’n cynnig cymorth i bobl ddigartref a’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gan gynghorau sydd â dyletswydd gofal i helpu i sicrhau neu gadw llety.
Er bod hyn yn gweithio ar gyfer o ddeutu 60% o achosion, pwysleisiodd Dr Mackie bod modd gwneud mwy.
Cyn trosglwyddo i Frances Beecher, rhannodd Dr Mackie raglen ymyrraeth gynnar yn Geelong, Awstralia o'r enw ‘Upstream’ lle caiff y perygl o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ei ganfod mewn ysgolion drwy gyfweliadau ac arolygon. Yna caiff pobl ifanc gymorth yn eu bywydau a chaiff digartrefedd ei atal.
Atal a chymorth
Dechreuodd Ms Beecher ei chyflwyniad drwy ddisgrifio’r gwaith mae Llamau yn ei wneud ar ran pobl ifanc a menywod yng Nghymru.
“Mae gennym ni ddeilliannau ieuenctid sydd gyda’r gorau yn Ewrop sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn ddigartref ac ar y strydoedd, ac rydym ni’n falch iawn o hynny,” dywedodd.
Ond fel yr eglurodd Ms Beecher, mae pobl yn ddigartref am resymau amrywiol iawn. Felly mae Llamau yn ceisio atal yn ogystal â symud pobl i ffwrdd o ddigartrefedd drwy gyfres o raglenni ymyrraeth gynnar, rhywedd-benodol, yn seiliedig ar sgiliau ac sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant.
Disgrifiodd sut mae Llamau’n ceisio creu ymdeimlad o gartref yn yr amgylcheddau ble mae’n cyflenwi gwasanaethau.
“Nid yw Llamau’n rhedeg hosteli. Nid yw Llamau'n rhedeg sefydliadau. Rydym ni’n gweithio gyda phobl mewn amgylcheddau cartref ac mae hynny wedi’i brofi dro ar ôl tro i fod y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'n rhoi ymdeimlad o berthyn, ymdeimlad o ddiogelwch, lle i ymgartrefu.
“A dyna sylfaen cyflenwi gwasanaethau ansawdd uchel,” ychwanegodd Ms Beecher
Cyflawni potensial a symud ymlaen
Yn ogystal â’r materion a godwyd gan Dr Mackie, rhannodd Ms Beecher rai o’r materion a wynebir gan y menywod a’r bobl ifanc mae Llamau’n gweithio gyda nhw. Profiad o’r system gofal, cam-drin domestig, afiechyd meddwl a diffyg cymorth ariannol neu ddyled yw’r mwyaf cyffredin o blith y rhain.
Mae Llamau wedi mabwysiadu model PIE-2 sy'n cael ei lywio gan ddamcaniaeth ffisiolegol a thystiolaeth yn ymwneud â thrawma. Drwy bum cam, mae Llamau’n ceisio cefnogi unigolion i gyflawni eu potensial a symud ymlaen.
- Creu diogelwch
- Gwneud synnwyr gyda’n gilydd
- Datblygu sgiliau
- Profi teithiau newydd
- Symud at yr antur nesaf
Busnes ac elusen
Daeth Ms Beecher â’r trafodaethau i ben drwy amlinellu manteision busnes ac elusennau’n gweithio gyda’i gilydd a sut y gall cydweithio arwain at gyfleoedd i’r holl bartïon.
Rhwydwaith yw’r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol. Ymunwch â'n cymuned.
Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.