Cyllid newydd ar gyfer bôn-gelloedd y gwaed
20 Mai 2019
Dyrennir dros £520,000 i helpu i gyllido ymchwil i fôn-gelloedd y gwaed sydd ar flaen y gad yn fyd-eang. Bydd yr ymchwil hon yn cael effaith barhaol ar drawsblannu mêr a thrallwyso gwaed.
Mae Dr Fernando Anjos-Afonso, Cymrawd Ymchwil o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, wedi ennill grant gwerth £524,000 gan y BSSRC i ariannu’r ymchwil hon, sy’n canolbwyntio ar fôn-gelloedd y gwaed.
Bydd y cyllid yn cefnogi ymchwil hanfodol, gyda’r nod o ddeall proses ffurfio celloedd y gwaed. Bydd hyn yn cael effaith go iawn ar y rheini sy’n wynebu canserau ac anhwylderau eraill y gwaed sy’n gysylltiedig â heneiddio.
Meddai Dr Anjos-Afonso: “Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd ynghylch sut mae’r gwaed yn ffurfio. Mae gan y gwaed gyfrifoldebau hynod bwysig sy’n allweddol i oroesi, gan gynnwys cyflenwi ocsigen a maethion i feinweoedd a gwarchod y corff rhag heintiau.
“I gwblhau’r swyddogaethau cymhleth hyn, mae’r rhan fwyaf o gydrannau’n cael eu hamnewid yn ddiderfyn, a dyma un o’r meinweoedd sy’n atffurfio fwyaf yn y corff. Mae tua thriliwn o gelloedd yn ffurfio bob dydd, o fêr ein hesgyrn.
“I gynnal y cynhyrchiad aruthrol hwn o gelloedd, mae celloedd y gwaed yn drefnus iawn, ond nid ydym yn gwybod llawer am y broses drefnu mewn bodau dynol.”
Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ymchwil fydd yn adeiladu ar ddarganfyddiadau blaenorol Dr Anjos-Afonso, a ariennir gan Sefydliad Hodge, sydd wedi trawsffurfio maes ymchwil canser y gwaed.
“Defnyddir trawsblaniadau mêr a thrallwysiadau gwaed at ddibenion therapiwtig hynod amrywiol.
“Drwy ddeall sut mae celloedd y gwaed newydd yn ffurfio o fôn-gelloedd y gwaed, a drwy edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar ôl trawsblaniadau mêr a thrallwysiadau gwaed, gallwn gael gwybodaeth fydd yn hanfodol ar gyfer creu strategaethau i wella’r triniaethau therapiwtig hanfodol hollbwysig hyn.
“Rydym yn credu y bydd yr ymchwil hon yn cael effaith bellgyrhaeddol mewn clinigau ac i gleifion,” ychwanegodd Dr Anjos-Afonso.