Cyffuriau’r genhedlaeth nesaf ar gyfer anhwylderau gorbryder
20 Mai 2019
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd gam yn nes at wella meddyginiaethau gorbryder, diolch i fuddsoddiad mawr gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Mae ymchwilwyr yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi derbyn grant o £3,400,000 gan y cyngor ymchwil meddygol i ariannu prosiect i ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer trin anhwylderau gorbryder.
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi ymchwil i ddatblygu cyffuriau sy'n lleihau'r sgîl-effeithiau sydd yn gysylltiedig â chyffuriau lleihau gorbryder benzodiazepine.
Dywedodd yr Athro John Atack, Cyfarwyddwr y sefydliad darganfod meddyginiaethau a dderbyniodd y wobr : "Anhwylder Gorbryder Cyffredinol yw’r math mwyaf cyffredin o bryder sy’n gallu cael effaith niweidiol ar fywydau pobl.
"Mae benzodiazepines yn feddyginiaethau gorbryder hynod effeithiol, ond maen nhw'n gwneud i bobl deimlo’n gysglyd ac yn aml yn cael eu defnyddio fel tabledi cysgu. O ganlyniad i hyn, a sgîl-effeithiau eraill, maent cyffuriau gwrth-iselder fel Prozac wedi’u disodli.
"Nid yw cyffuriau gwrth-iselder mor effeithiol â hynny, ond maent yn achosi sgîl-effeithiau sylweddol. O ganlyniad, mae tua 75% o gleifion yn anhapus iawn gyda'u triniaeth, ac mae llawer yn rhoi'r gorau i gymryd eu meddyginiaethau neu’n dewis peidio cael eu trin.
"Felly, mae'n hanfodol ein bod ni'n dod o hyd i opsiynau therapiwtig gwell."
Bydd yr arian yn galluogi'r Sefydliad i barhau i ddatblygu eu hymchwil. Mae’r ymchwil yn dangos y gallant leihau pryder mewn modelau anifeiliaid heb y sgîl-effeithiau tawelyddol wrth newid swyddogaeth aelodau penodol o deulu proteinau derbynnydd GABAA yn yr ymennydd.
Ychwanegodd yr Athro Atack, "Mae'r buddsoddiad hwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol nid yn unig yn cydnabod yr angen am feddyginiaethau newydd ar gyfer anhwylderau gorbryder, maes ymchwil lle na fu unrhyw ddatblygiadau mawr ers dechrau'r 1960au, mae hefyd yn cydnabod y cynnydd sylweddol yr ydym wedi'i wneud.
"Drwy ddatblygu meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar isdeipiau penodol y derbynnydd GABAA, credwn y byddwn yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd cleifion ag Anhwylder Pryder Cyffredinol ar draws y byd.