Ymgyrch Camweddau Cyfiawnder yn cynnal cynhadledd yng Nghaerdydd
17 Mai 2019
Camweddau cyfiawnder oedd canolbwynt y sylw fis Mawrth mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Dewisodd yr ymgyrch dielw, Innovation of Justice, yr Ysgol fel lleoliad ar gyfer ei ail gynhadledd, ‘Reviving the Criminal Justice System’.
Sefydlwyd Innovation of Justice gan Liam Allan, myfyriwr 23 oed a gyhuddwyd ar gam gan ei gyn-gariad o drais yn 2017. Gollyngwyd y cyhuddiadau yn erbyn Liam gan na ddatgelwyd tystiolaeth i brofi ei fod yn ddieuog tan y funud olaf. Ymddiheurodd Heddlu’r Metropolitan i Liam ar ôl yr achos gan gydnabod mai "diffyg gwybodaeth" ar ran yr heddlu a’r erlyniad oedd yn gyfrifol am y camgymeriad. Roedd achos Liam yng nghanol yr 'argyfwng datgelu' a gafodd sylw yn y newyddion cenedlaethol.
Gyda'i gyd-sylfaenydd Annie Brodie-Akers, mae Liam bellach yn benderfynol o ddod â'r bobl iawn at ei gilydd: ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol yn y gyfraith a phobl sydd wedi'u cyhuddo ar gam a'u dyfarnu'n euog o droseddau i drafod sut y gellir gwella'r system cyfiawnder troseddol. Bydd Innovation of Justice yn cynnal cyfres o gynadleddau ar draws Cymru a Lloegr, i addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o euogfarnau anghyfiawn a'u heffaith niweidiol ar fywydau pobl.
Roedd y gynhadledd eleni'n cynnwys y siaradwyr Michael O'Brien, a dreuliodd un flwyddyn ar ddeg yn y carchar ar gam yn dilyn llofruddiaeth gwerthwr papurau newydd o Gaerdydd, Michelle Diskin-Bates, chwaer Barry George, a gafwyd yn euog o lofruddio Jill Dando ac yna ei ryddhau'n ddiweddarach, a'n myfyrwyr ni sy'n rhan o Brosiect Dieuogrwydd y Brifysgol.
Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yw'r unig brosiect o'r fath yn y DU i lwyddo i wyrdroi euogfarn. Yn 2014, hwn oedd y Prosiect Dieuogrwydd cyntaf gan un o Brifysgolion y DU i ddwyn achos yn llwyddiannus gerbron y Llys Apêl. Roedd Dwaine George eisoes wedi treulio 12 blynedd dan glo am lofruddio.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, helpon nhw i ddileu euogfarn anghyfiawn Gareth Jones oedd wedi treulio tair blynedd a hanner yn y carchar ar ôl gweithio ar yr achos ac yna aros am yr apêl a gymerodd dros chwe blynedd.
Gan siarad ar ôl y gynhadledd, dywedodd Liam Allan, "Roeddem ni'n awyddus i ddod â digwyddiad fel hwn i Gaerdydd, o ystyried llwyddiant diweddar yr Ysgol yn gwyrdroi dyfarniad a'r cyfoeth o brofiad sydd yn eu prosiect dieuogrwydd. Roedd yn teimlo fel pe bai cyffyrddiad personol i siaradwyr fel Michael O'Brien, drwy ddod i rywle lle'r oedden nhw'n teimlo'n gartrefol a mynd ati'n wirioneddol i gasglu cefnogaeth i Innovation of Justice. Mae'n wych ble bynnag yr awn ni, bod mwy a mwy o bobl yn ymuno â'r teulu, yn ymuno â'r frwydr, i sicrhau bod cyfiawnder ar gael i bawb sy'n eu cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol."
Adleisiodd cyd-sylfaenydd Innovation of Justice, Annie Brodie-Akers, ei chydweithiwr, "Roedd yn bleser cydweithio gydag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a phrosiect dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd ar ail gynhadledd Innovation of Justice. Rydym ni'n gweithio i ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth ar ran y rheini sydd wedi dioddef camwedd cyfiawnder, ac roedd yn gyfle arbennig i weithio gyda'r timau sydd wedi gwyrdroi dedfrydau yn ymarferol. Rydym ni wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn gan fynychwyr y digwyddiad a byddem ni'n hapus i weithio gydag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth eto."