Ewch i’r prif gynnwys

Goruchwyliaeth ddoethurol ragorol

17 Mai 2019

Dr Treré (ar y dde) gyda'r myfyriwr PhD Edel Anabwani
Dr Treré (ar y dde) gyda'r myfyriwr PhD Edel Anabwani

Mae Dr Emiliano Treré, Darlithydd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, wedi ennill ‘Goruchwylydd Doethurol Rhagorol’ yn Seremoni Wobrwyo Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2019 Prifysgol Caerdydd.

Trefnwyd y seremoni wobrwyo flynyddol hon, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn, gan Undeb y Myfyrwyr, ac mae’n gyfle i fyfyrwyr enwebu staff, tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'w hastudiaethau a'u profiad.

Eleni, roedd y categorïau'n cynnwys ‘Yr aelod o staff sy’n ysbrydoli fwyaf’, ‘Tiwtor personol y flwyddyn’ a ‘Chynrychiolydd Myfyrwyr Academaidd y Flwyddyn’.

Enwebwyd Dr Treré, y mae ei ymchwil yn cynnwys mynd i’r afael â materion sy'n ymwneud ag ymgyrchu digidol, diwylliant, hunaniaeth a phŵer, gan y myfyriwr PhD Edel Anabwani, sy’n ymchwilio i rôl ymgyrchu a’r cyfryngau cymdeithasol yn ymgyrchoedd gwleidyddol Kenya ar hyn o bryd.

“Mae cael fy enwebu, cyrraedd y rhestr fer ac ennill y wobr hon yn teimlo’n wych, yn enwedig pan mae’r enwebiad yn dod o’r myfyrwyr eu hunain,” meddai Dr Treré.

Dr Treré talks about the different types of research carried out by his students.

“Rwy’n mwynhau cyfathrebu fy angerdd dros ymchwil, ac o ganlyniad rwy’n annog myfyrwyr i ddangos eu hangerdd nhw. Mae llawer o weithgareddau cymhleth ynghlwm wrth waith ymchwil, fel gwaith maes, ond i lwyddo mae angen bod yn angerddol dros yr hyn rydych yn ei wneud. Heb angerdd, mae’n anodd iawn cyflwyno ymchwil o ansawdd uchel.”

“Mae Edel yn frwd dros wella dealltwriaeth pobl o'r cyfryngau yn Kenya, ac mae ei gwaith blaenorol fel newyddiadurwr a chynhyrchydd newyddion i Kenya Broadcasting wedi rhoi sail gref i’w hastudiaethau. Mae hwn yn brosiect ymchwil cyffrous i’w oruchwylio ac rwy’n edrych ymlaen at ddarllen canlyniadau eu hastudiaethau.”

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.