Prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth yn dylanwadu ar adroddiad Tŷ'r Cyffredin
17 Mai 2019
Mae ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi bod o “gymorth mawr” i ymchwiliad i ddarpariaeth carchardai, yn ôl ASau Cymreig.
Mae’r adroddiad heddiw gan y Pwyllgor Materion Cymreig wedi ei ddylanwadu’n helaeth gan waith Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac mae'n cynnwys argymhelliad y dylai Llywodraeth y DG weithio gydag ef ac eraill i gyhoeddi data sy'n benodol i Gymru ar garcharu.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at waith Dr Jones ar ddarganfyddiadau o gyffuriau ac alcohol, gwasgariad daearyddol carcharorion, a chapasiti carchardai. Yn ôl ASau, mae’r adroddiad “yn dod i'r casgliad fod cyd-weithio gwael rhwng Llywodraethau'r DG a Chymru wedi arwain at broblemau sylweddol yng ngharchardai Cymru, gan gynnwys dwysedd poblogaeth uchel, trais rhwng 'gangiau', gofal iechyd annigonol a diffyg darpariaeth carchardai ar gyfer menywod o Gymru a siaradwyr Cymraeg.”
Ers 2018, mae prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi torri tir newydd drwy helpu i greu dealltwriaeth o'r system gyfiawnder troseddol yng Nghymru, ac mae ymchwil y prosiect wedi llywio datblygiad polisi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a Senedd y DG.
Dywedodd Dr Robert Jones:
“Rydym wedi defnyddio data sydd heb ei gyhoeddi o’r blaen, yn aml drwy wneud ceisiadau yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, er mwyn cyhoeddi sawl ffeil ffeithiau sydd yn rhoi darlun o garcharu a dedfrydu yng Nghymru.
“Fodd bynnag, mae ASau Cymreig wedi cydnabod a chytuno y byddai dull mwy systematig o gyhoeddi data o gymorth i lunwyr polisi a’r rhai sydd yn craffu ar y ffordd mae’r system garchardai yn gweithredu yng Nghymru.
“Rwy’n croesawu’r adroddiad, ac yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth y DG yn ymateb i’r amrywiol argymhellion.”