Ysgol yn ymuno â phartneriaeth dysgu fyd-eang
16 Mai 2019

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i chydnabod yn arweinydd ym maes dysgu drwy brofiad.
Yr Ysgol yw’r diweddaraf i ddod yn Bartner Dysgu Profiadol (ELP) Bloomberg, sef grŵp neilltuedig o sefydliadau addysgol byd-eang.
Mae ELP Bloomberg yn cydnabod sefydliadau academaidd fel arweinwyr ym maes dysgu drwy brofiad drwy gynnwys arferion terfynellau Bloomberg yn eu cwricwla.
Ymwybyddiaeth o’r farchnad a pharodrwydd gyrfaol
Nod y fenter yw creu cymuned o brifysgolion ac athrawon cyfoedion sy’n cynnig cyrsiau arloesol i fyfyrwyr er mwyn meithrin eu hymwybyddiaeth o’r farchnad ariannol a’u parodrwydd gyrfaol.

Dywedodd Dr Woon Wong, Cyfarwyddwyr Gweithrediadau Ystafell Fasnachu Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae cydnabod yr Ysgol fel ELP Bloomberg wedi amddiffyn themâu strategol Y Ffordd Ymlaen sy’n anelu at wneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad addysgol o’r radd flaenaf sy’n rhoi pwyslais ar ragoriaeth ei hymchwil...”

“Yn wir, cychwynnwyd ystafell fasnachu terfynellau Bloomberg yn gyntaf gan Kent Matthews, Athro Bancio a Chyllid Syr Julian Hodge, er mwyn cynnig amgylchedd addysgu ac ymchwil ardderchog i academyddion a myfyrwyr ill dau.”
Cyflawnodd Ysgol Busnes Caerdydd feini prawf cymhwysedd Bloomberg er mwyn cael ei hystyried ar gyfer y rhaglen. Rhagorodd yr Ysgol ym meysydd darparu cyrsiau a defnyddio terfynellau Bloomberg.
Sefyllfaoedd yn y byd go iawn
Mae’r terfynellau’n ffurfio rhan o Ystafell Fasnachu o’r radd flaenaf yr Ysgol (sef y mwyaf yng Nghymru) sydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion gwerth £13.5 miliwn.
Defnyddir Bloomberg ym mhum modiwl ar draws cwricwlwm israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol – mae oddeutu 1093 o fyfyrwyr wedi cofrestru arnynt.
Mae Bloomberg hefyd yn ffurfio rhan o’r gronfa ddata y mae myfyrwyr yn ei defnyddio i ysgrifennu traethodau hir MSc.
Meddai Dr Hossein Jahanshahloo, Darlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn ymdrechu i roi profiad dysgu bywiog i’n myfyrwyr. Profiad sy’n rhyngweithiol ac yn ennyn eu diddordeb mewn ffordd efallai na fyddai ystafell addysgu draddodiadol yn ei gwneud...”

“Mae’r math hwn o ddull ymarferol hefyd yn hanfodol wrth roi mantais gystadleuol iddynt pan fyddant yn mynd i’r gweithlu.”
“Felly, yn ogystal â rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau dadansoddi y gallant eu defnyddio mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn, mae ein partneriaeth yn stamp gymeradwyo ar gyfer darpar gyflogwyr sydd bob amser yn chwilio am raddedigion sydd â dealltwriaeth o Bloomberg.”