Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrwyo myfyrwyr am eu cefnogaeth ymgysylltu

16 Mai 2019

Overhead shot of Chaos Society Student Ball

Mae’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn ymroddedig i estyn allan i’r gymuned ehangach er mwyn hyrwyddo ein gwaith ymchwil a’n cyrsiau gydag amrywiaeth o weithgareddau ar hyd y flwyddyn.  Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, ar y penwythnos, ac weithiau gyda’r hwyr, ac maen nhw’n dibynnu ar ymdrechion gwirfoddol nifer fawr o bobl, gan gynnwys myfyrwyr.  I gydnabod gweithgareddau gwirfoddol ein myfyrwyr rydym ni’n dyfarnu Gwobrau a Dyfarniadau Ymgysylltu Cymunedol, sy’n dod gyda swm ariannol bychan, i fynegi ein diolchgarwch am eu hymroddiad.  Mae’r gwobrwyo’n digwydd yn Nawns flynyddol Cymdeithas Chaos, y mae staff a myfyrwyr yr adran yn mynd iddi.

Mae dwy wobr arbennig am gyfraniadau neilltuol i estyn allan, gwobrau Marconi a Josephson.  Dyfarnir y ddwy wobr arbennig hon i ddau unigolyn, un israddedig ac un ôl-raddedig, a ddewisir gan y timau estyn allan a recriwtio.

Gwobr Marconi am gyfraniad neilltuol i ymgysylltiad cymunedol gan fyfyriwr israddedig

Enwir y wobr hon ar ôl y dyfeisiwr Eidalaidd Guglielmo Marconi, a gyflawnodd drosglwyddiad radio cyntaf y Byd dros y dŵr yn Ne Cymru, gan dderbyn radio a anfonwyd ar draws Môr Hafren i dderbynnydd ar Drwyn Larnog, rhwng Penarth a’r Barri.

Mae enillydd eleni wedi ymgysylltu’n aruthrol â’n gweithgareddau estyn allan ac ymgysylltu.  Yn arbennig, mae wedi esbonio arbrofion estyn allan wrth ymwelwyr mewn Diwrnodau Agored, Diwrnodau Deiliaid Cynnig a digwyddiadau’r Amgueddfa, a bu hyd yn oed yn datblygu ei arddangosiadau ei hun sydd bellach yn nodwedd sefydlog o’n darpariaeth estyn allan.

Enillydd Gwobr Marconi 2019 yw Jaspa Stritt.

Gwobr Josephson am gyfraniad neilltuol i ymgysylltiad cymunedol gan fyfyriwr ôl-raddedig

Enwir y wobr ar ôl y ffisegwr o Gaerdydd a enillodd wobr Nobel, a ddarganfu’r hyn rydyn ni bellach wedi rhoi’r enw Effaith Josephson arno: sef bod cerrynt trydanol yn gallu llifo rhwng dau uwch-ddargludydd (deunyddiau â gwrthiant trydanol sero) hy yn oed pan roddir ynysydd rhyngddynt.

Mae enillydd eleni wedi ymrwymo llawer o amser ar gyfer estyn allan ac ymgysylltu dros y blynyddoedd.  Ceir hyd iddi’n aml yn sgwrsio gyda myfyrwyr a rhieni mewn Diwrnodau Agored a Diwrnodau Deiliaid Cynnig, yn cyfleu ei brwdfrydedd ynghylch ffiseg a seryddiaeth i’r ymwelwyr.   Mewn mannau eraill, mae wedi helpu i gyflwyno ymchwil seryddiaeth mewn digwyddiadau y tu mewn a’r tu allan i’r adran.  Yn ogystal, mae wedi bod yn arwain gweithdai ehangu cyfranogiad i fyfyrwyr ysgol.

Enillydd Gwobr Josephson 2019 yw Eve North.

Dyfarnir pedair gwobr arall i fyfyrwyr am eu cyfraniadau.  Mae rhestr lawn enillwyr pob un o’r categorïau i’w gweld isod:

Gwobr Georges Lemaitre am Gyfraniad i Ymgysylltu â’r Gymuned

Amin Boumerdassi, Holly Davies,Anujan Ganeshalingam, Pavel Loktionov, Jess Mabin, Kyle Netherwood, Paradeisa O'Dowd Phanis. Joe Penning, Cameron Rose, Sam Small, Jorge De Andres Tamargo, Robert Ward.

Gwobr Vera Rubin am Gyfraniad Cyson i Ymgysylltu â’r Gymuned

Waleed Ahmed, Michael Anderson, Vicki Ayley, Lille Borresen, Joseph Cannon,Sushmitha Dachepalli, Celt Griffith, Eleanor Hamilton, Callon Handy, Lydia Jarvis,Thomas Laws, Alex Loader, Charlotte Pincher, Iwan Pullen, Vasileios Skliris, Anna Thomas, Niki Tsvetanov, Tom Williams, Nikki Zabel.

Gwobr C V Raman am Gyfraniad Sylweddol i Ymgysylltu â’r Gymuned

Jack Avery, Arjen van den Berg, Oisín Boyle, Calum Dear, Tilly Evans, Rachel Ferguson, Polly Gill, Will Griffiths, Beni Hofmann, Beth Lisles, Lewis Prole, Lucy Shields, Martyna Wezyk.

Gwobr Marie Curie am Gyfraniad Neilltuol i Ymgysylltu â’r Gymuned

Robert Daley, Tom Hyett, Cameron Mills, Mihaela Raischi, Barbara Wawrzynek, Noor Zaidi.

Diolch arbennig hefyd i’r myfyrwyr canlynol am eu gwaith estyn allan ac ymgysylltu: Isabelle Boreham, Lille Borrensen, Daniel Gomez Sanchez, Christopher Hoare, Amber Hornsby, Jenifer Millard, Aqil Rizwan, a Connor Smith.

Rhannu’r stori hon