Ysgrifennu ac ymchwil yn dod yn fyw
15 Mai 2019
Bydd ysgrifenwyr ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn dod â’u gwaith yn fyw yn un o wyliau llenyddol mwyaf adnabyddus y byd.
Mae gwahoddiad i ymwelwyr Gŵyl y Gelli, sy’n cael ei chynnal rhwng 23 Mai a 2 Mehefin, i ddarganfod tirweddau llenyddol a chlywed chwedlau arswyd mewn sgyrsiau a darlleniadau gan aelodau o Brifysgol Caerdydd.
Bydd yr Athro Jon Anderson, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn arwain sgwrs gyda’r Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Dr Mary-Ann Constantine, o’r Ganolfan Uwch Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru, i ystyried y cysylltiadau rhwng tirwedd Cymru a’i llenyddiaeth.
Byddant yn tynnu ar brosiect Literary Atlas yr Athro Anderson, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Llenyddiaeth Cymru. Nod y prosiect oedd creu ffyrdd newydd o werthfawrogi’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a daearyddiaeth.
O fapio dros 570 o nofelau yn Saesneg wedi’u lleoli ledled Cymru, i gomisiynu gwaith celf ar gyfer 12 nofel ddewisol, roedd y prosiect yn cynnwys cyfweliadau ag awduron, tiriogaethau a gerddwyd, a hanesion wedi’u curadu i ailddarganfod pwysigrwydd diwylliannol y nofel i dir a llenyddiaeth Cymru.
Cynhelir Wales: a Tapestry of Literature and Landscape ddydd Mawrth 28 Mai am 17.30.
Yna ar ôl iddi nosi bydd Damian yn gwneud ymddangosiad ar wahân mewn digwyddiad na fydd yn addas i’r rhai gwangalon.
Gan ymddangos ochr yn ochr â’r awdur Michelle Paver, bydd Damian yn darllen ac yn trafod ei lyfr Docklands, stori ysbrydion wedi’i hadrodd mewn 50 cerdd a’i gosod yng Nghaerdydd yr Oes Fictoria.
Bydd Paver yn trafod ei nofel gyffrous othig, Wakenhyrst, sy’n sôn am ddiafol canoloesol mewn mynwent yn deffro grymoedd dieflig.
Cynhelir Fictions: Wakenhyrst and Docklands ddydd Mawrth 28 Mai am 20:30.
Fe fydd Dr Jean Jenkins, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a rhan o’r Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru, sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i’r cysylltiadau diwydiannol yn y sector dillad ers tua 25 mlynedd, hefyd yng Ngŵyl y Gelli.
Mae gan y diwydiant hwn hanes yn y wlad hon a thramor o gamfanteisio'n difrifol ar ei weithlu.
Ond er bod y gweithwyr yn cael eu portreadu o bryd i’w gilydd fel dioddefwyr goddefol, maent yn gwrthsefyll y camfanteisio hwn ac yn ymladd am amodau gwaith gwell, er gwaethaf yr holl anawsterau.
Bydd darlith Jean yn canolbwyntio ar yr hyn mae gweithwyr yn ei wneud drostyn nhw eu hunain, yr heriau maent yn eu hwynebu a’r angen i gael yr hawliau cyflogadwyedd mwyaf sylfaenol – yr hawl i fargeinio er mwyn gwarchod eu buddiannau eu hunain.
Cynhelir Fashion - An Industry of Gross Exploitation hefyd ar y dydd Mawrth am 20:30.
Bydd y meddyg gofal dwys Matt Morgan, sy’n Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn y Brifysgol, yn yr ŵyl i drafod ei lyfr newydd Critical: Science and Stories from the Brink of Human Life.
Bydd yn siarad â’r Farwnes Ilora Finlay, Athro Meddygaeth Liniarol, am ei amser gyda chleifion sydd ar fin marw a sut mae e a’i gydweithwyr yn brwydro i achub eu bywydau er gwaethaf yr anawsterau.
Cynhelir y digwyddiad am 11:30 ddydd Gwener 31 Mai, sef diwrnod lansio’r llyfr.