Rhys Jones's Wildlife Patrol ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau
15 Mai 2019
Mae rhaglen natur gan ddarlithydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Rhys Jones, yn cael sylw byd-eang ar ôl i Dreamscape gael yr hawl i ddarlledu’r gyfres ledled yr Unol Daleithiau.
Mae Rhys Jones's Wildlife Patrol, a lansiwyd yn 2010, yn gyfres a gafodd ei dangos am 5 mlynedd. Bu Rhys Jones yn cydweithio ag asiantaethau’r gyfraith i gymryd safiad yn erbyn troseddau bywyd gwyllt a dychwelyd anifeiliaid egsotig i’w cartrefi.
“Yn rhan o’r rhaglen, fe wnaethom gynnal nifer o ymchwiliadau, gan gynnwys teithio i Kenya i adrodd am y cynnydd brawychus mewn potsio rhinoserosiaid, ac ymchwilio i’r risg i fioamrywiaeth o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn o achosion lleol o ddifodiant ym mynyddoedd y Dolomitau yn yr Eidal”, esboniodd Dr Jones.
“Fe wnaeth ein hymchwil arwain at gyfanswm o wyth o droseddwyr yn cael eu carcharu am droseddau yn erbyn bywyd gwyllt, a gwnaethon ni gyfraniad pwysig o ran sicrhau'r erlyniadau llwyddiannus cyntaf yn hanes cyfreithiol Prydain ar gyfer tramgwyddau Adran 14 y Ddeddf Byd Natur a Chefn Gwlad ar gyfer mynd ati'n fwriadol i ryddhau anifeiliaid anfrodorol sy'n bridio.”
“Rydw i wrth fy modd bod y gyfres wedi’i dewis gan Dreamscape i gael ei dangos yn yr UDA”, aeth Dr Jones yn ei flaen. “Mae troseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn broblem fyd-eang, a bydd y datblygiad hwn yn ein galluogi i ddod ag effaith a gwaddol ein gwaith i gynulleidfa gwbl newydd o bobl sy’n caru natur.”