Cydnabyddiaeth Llyfr y Flwyddyn Cymru
14 Mai 2019
‘Insistence’, casgliad o farddoniaeth, yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias
Mae Ailbhe Darcy, Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, yn un o dri bardd sy’n cael eu cydnabod ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru 2019, a gyhoeddwyd y mis yma.
Mae ‘Insistence’ yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer barddoniaeth yn Saesneg, ochr yn ochr â ‘Salacia’ gan Mari Ellis Dunning a ‘Gen’ gan Jonathan Edwards.
Yn gynharach eleni cafodd y casgliad clodwiw ei gynnwys yn rhestrau byr Gwobr TS Eliot, Gwobr Barddoniaeth Pigott, a Gwobr Poetry Now.
Y llynedd cyrhaeddodd Tristan Hughes, un o’i chyd-ddarlithwyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol y Brifysgol, sydd yn uchel ei pharch, y rhestr fer ar gyfer Hummingbird, gan ennill Gwobr Dewis y Bobl 2018.
Dyma’r hyn sydd gan Ailbhe Darcy, awdur a aned yn Nulyn ac sy’n ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol, i’w ddweud am ei chasgliad diweddaraf:
“Fel un sy’n gymharol newydd yng Nghymru, mae cyrraedd y rhestr fer yn wefr arbennig i mi, gan ei fod yn caniatáu i mi feddwl fy mod, ar ryw ystyr, yn fardd Cymreig yn ogystal â Gwyddelig. Mae barddoniaeth yn cael ei chymryd o ddifri yma yng Nghymru, yn union fel y mae yn Iwerddon. Ac yn union fel y mae pob llyfr yn ymdrech ar y cyd, dim ond gyda chymorth a chefnogaeth fy nghydweithwyr a’m myfyrwyr yma yng Nghaerdydd y gwnes i ysgrifennu ‘Insistence’.”
Dylai plentyn newydd olygu gobaith newydd. Ond beth os nad yw hynny'n wir bellach? Mae Insistence wedi'i osod yn Ardaloedd Ôl-ddiwydiannol America, mewn cyfnod o newid hinsawdd a therfysg, ac mae'n ystyried cyfrifoldeb rhiant i'w phlentyn, cyfrifoldeb y bardd i'r darllenydd, a breguster yr unigolyn yn wyneb argyfwng byd-eang, gan dalu teyrnged i alfabet Inger Christensen yn 1981.
Mae Gwobr Barddoniaeth Roland Mathias yn un o wyth gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, gan gynnwys y People’s Award (am waith yn Saesneg) a Gwobr Barn y Bobl (gwobr y bobl am waith yn Gymraeg).
Mae Gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru, a gyflwynir gan Llên Cymru, yn cael eu cyflwyno bob blwyddyn i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-greadigol.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llên Cymru: “Mae’r teitlau eithriadol hyn yn annog darllenwyr i archwilio ac ystyried rhai o gwestiynau mwyaf bywyd. Mae iechyd meddwl a hunaniaeth - bersonol a chenedlaethol - yn treiddio trwy’r dewisiadau hyn. Dyma’n wir yw ysgrifennu cyfoes o Gymru ar ei orau.”
Cyhoeddir Gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2019 mewn seremoni wobrwyo arbennig ddydd Iau 20 Mehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Gallwch bleidleisio dros Wobr y Bobl tan 7 Mehefin.