Prif anrhydedd yr UDA i wyddonydd o Gaerdydd
14 Mai 2019
Mae seryddwr o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi ymroi ei fywyd i agor maes seryddiaeth tonnau disgyrchol, wedi derbyn anrhydedd gwyddonol uchaf yr Unol Daleithiau.
Mae’r Athro Bernard Schutz, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, wedi’i ethol i Academi Genedlaethol y Gwyddorau (National Academy of Sciences (NAS)) i gydnabod ei lwyddiannau nodedig a pharhaus yn y maes.
Mae aelodaeth o’r Academi yn nod rhagoriaeth a gydnabyddir yn eang a chaiff ei ystyried yn un o’r anrhydeddau uchaf y gall wyddonydd ei dderbyn.
Mae gwaith arloesol yr Athro Schutz wedi dangos sut i ddethol yr elfennau gwyddonol pwysicaf o ganfyddiadau newydd tonnau disgyrchol. Dyma waith sydd bellach yn cael ei wneud gan Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO) a’r ymyriadur VIRGO.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd yr Athro Schutz: “Mae cael fy ethol i Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA yn anrhydedd eithriadol, ac roedd hefyd yn dipyn o syndod, yn enwedig gan nad ydw i wedi gweithio yn fy ngwlad enedigol ers i mi ddod i Gaerdydd yn y 1970au.”
Cafodd tonnau disgyrchol, sydd wedi’u disgrifio fel crychdonnau mewn gofod ac amser, eu cyflwyno gyntaf gan Albert Einstein dros 100 mlynedd yn ôl. Yn ôl Einstein, gallant ddeillio o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig treisgar, megis gwrthdrawiad dau dwll du.
Mewn papur ym 1986, dangosodd yr Athro Schutz sut y gellir defnyddio tonnau disgyrchiant i fesur y gyfradd ehangiad cosmig. Dangosodd fod tonnau disgyrchiant yn sgîl gwrthdrawiad yn “seirenau safonol” sy’n cynnwys gwybodaeth am eu pellter o’r Ddaear.
Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, gwireddwyd ei ddamcaniaeth pan ganfuwyd tonnau disgyrchol ac electromagnetig o’r un gwrthdrawiad gan LIGO, Virgo, a nifer o loerenni a thelesgopau seryddol, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd.
Roedd yr Athro Schutz yn allweddol wrth osod y sylfaen ar gyfer LIGO yn y 1980au, ac ers hynny wedi bod yn rym yn natblygiad llwyddiannus y cydweithio, sydd bellach yn cynnwys dros 1,300 o wyddonwyr o wledydd ar draws y byd.
Diolch i ymrwymiad diwyro yr Athro Schutz i LIGO, mae’r cydweithio bellach yn datgelu gwirioneddau cudd am ein Bydysawd ar gyfradd heb ei thebyg. Ers dod nôl ar-lein mis diwethaf er mwyn dechrau’r trydydd cyfnod arsyllu, mae synwyryddion LIGO wedi canfod pum signal posibl pellach gan gynnwys y posibilrwydd o wrthdaro rhwng seren niwtron a twll du.
“Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth arall, gan ein cymheiriaid gwyddonol, o bwysigrwydd y gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud yng Nghaerdydd gyda’n cydweithwyr ledled y byd i ddefnyddio tonnau disgyrchol er mwyn archwilio rhannau cudd o’r Bydysawd”, yn ôl yr Athro Schutz.
Cafodd yr Athro Schutz ei eni a’i addysgu yn UDA, a chafodd ei PhD mewn Ffiseg o Sefydliad Technoleg California ym 1971. Yn dilyn gwaith ôl-ddoethurol yng Nghaergrawnt gyda Stephen Hawking a Martin Rees, a gwaith pellach ym Mhrifysgol Yale, daeth yn ddarlithydd yn yr hyn oedd yn Goleg Prifysgol Caerdydd ym 1974. Ym 1995, ac yntau’n Athro erbyn hynny, symudodd i’r Almaen fel un o'r ddau gyfarwyddwr oedd yn sylfaenwyr ar Sefydliad Max Planck ar gyfer Ffiseg Ddisgyrchol (Sefydliad Albert Einstein).
Ar ôl ymddeol o’r swydd honno yn 2014, dychwelodd i Brifysgol Caerdydd fel Athro Ffiseg a Seryddiaeth, a daeth yn gyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data y Brifysgol. Mae’n Athro Cynorthwyol yn Sefydliad Technoleg Georgia yn UDA.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Ar ran pawb yn y Brifysgol, hoffwn longyfarch yr Athro Schutz ar y cyflawniad rhagorol hwn. Dylai fod yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth uchel ei pharch hon gan ei gymheiriaid ac ymuno â grŵp elitaidd o wyddonwyr gorau’r byd.
“Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae’r Athro Schutz wedi chwarae rôl hollbwysig yn datblygu adnoddau Prifysgol Caerdydd ym maes ymchwil tonnau disgyrchol; ymdrech sydd bellach yn dwyn ffrwyth wrth i wyddonwyr o fewn y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant barhau i wneud darganfyddiadau anhygoel am y Bydysawd yn rhan o brosiect cydweithio LIGO.”