Arweinydd Uned mewn Cyfnodolyn RIBA
14 Mai 2019
Kate Darby o Kate Darby Architects ac arweinydd uned yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi’i phroffilio yng Nghyfnodolyn RIBA.
Mae Kate Darby’n bensaer wedi’i hachredu gan RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydeinig) ac yn bennaeth dros Kate Darby Architects (KDA). Bu'n astudio Pensaernïaeth yn y Bartlett a'r Gymdeithas Bensaernïol, ac mae wedi cyfuno'r gwaith gydag addysgu ac ymchwil ers 1997. Cyn sefydlu KDA, roedd hi’n gweithio i Gianni Botsford Architects yn Llundain fel pensaer prosiect ar y ‘Goleudy’.
Enillodd KDA Wobr Prosiectau Bach Architect’s Journal yn 2017 â Croft Lodge Studio, sy’n adnewyddiad o dŷ allan 300 mlynedd oed sy'n llawn dŵr ar bwys ei chartref yn Sir Henffordd. Hefyd, enillodd Wobr Beazley am Ddyluniadau’r Flwyddyn a Gwobrau Gorllewin Canolbarth Lloegr RIBA 2017.
Mae Kate hefyd yn rhan o Invisible Studio, a sefydlwyd gan Piers Taylor, a Studio in the Woods a sefydlwyd yn 2005, sy’n brosiect parhaus dros addysg ac ymchwil. Yn 2018, cymerodd myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru ran mewn Stiwdio yn y Goedwig a gynhaliwyd yng Nghoedwig Wyre i ystyried ffyrdd o ddefnyddio pren o’r goedwig yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae Kate yn cyd-arwain myfyrwyr MArch yn eu hail flwyddyn yn yr uned ‘Addasiad Lleol’ gyda Gianni Botsford. Nod yr uned yw ystyried addasu pensaernïaeth yn ôl yr hinsawdd, diwylliant a chyd-destun yng Nghoedwig Wyre.
Gweler yr erthygl gyfan gan Eleanor Young ar wefan Cyfnodolyn RIBA.