Cydnabyddiaeth Prif Gymrodoriaeth
13 Mai 2019
Llongyfarchiadau i'r Athro Anwen Williams sydd wedi cael ei phenodi’n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (AU Uwch).
Dyfernir y Brif Gymrodoriaeth i'r rhai sydd â gyrfa academaidd ym maes addysg uwch ac sy'n dangos arweinyddiaeth a chyfrifoldeb sylweddol o ran dysgu ac addysgu.
Penodwyd Anwen yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn 2012. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu, rheoli a chyflenwi cyfleoedd addysgu a dysgu o safon uchel mewn nifer o swyddi uwch-reolwyr (Dirprwy Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig, Dirprwy Ddeon Ymchwil, Cyfarwyddwr Graddau Ymchwil Ôl-raddedig a Chyfarwyddwr yr Academi Ddoethurol).
Llwyddodd i arwain y gwaith o ddylunio, datblygu a gweithredu strategaethau a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. Mae'r rhain wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol gan gyrff proffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys arwain tîm yr Academi Ddoethurol a fapiodd y pedwar cyfnod allweddol yng nghronoleg taith yr ymchwilydd ôl-raddedig i greu'r cwricwlwm Pontio, Caffael, Cwblhau a Chyflogaeth a fabwysiadwyd gennym yn 2018.
Anwen yw ein hail Brif Gymrawd, ynghyd â Claire Morgan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cynnal.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, yr Athro Amanda Coffey, “Rydym yn falch iawn o'r gydnabyddiaeth hon. Mae’n rhan o gynllun sydd wedi hen ymsefydlu sydd yn cael ei gydnabod ac yn eiddo i'r sector sy'n cynnig meincnod ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu mewn Addysg Uwch. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu cymuned lle mae dysgu ac addysgu yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi ac mae hon yn un ffordd o gydnabod y gwaith rhagorol hwn.”
Fel rhan o golofn addysg Trawsffurfio Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu ac i gynyddu nifer y staff academaidd gyda chydnabyddiaeth allanol o ragoriaeth addysgu.
Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd y Ganolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg yn ariannu nifer o geisiadau staff am Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn ogystal â chynllun peilot ar gyfer gweithdy ac encil ysgrifennu i'r rhai sydd â diddordeb yn y Brif Gymrodoriaeth.