Disgyblion Caerdydd yn ffurfio 'cyfeillgarwch gydol oes' gyda phlant yn Affrica
19 Hydref 2015
Dwy ysgol â miloedd o filltiroedd rhyngddynt yn defnyddio technoleg i helpu disgyblion i ddysgu am ei gilydd a ffurfio cyfeillgarwch gydol oes
Bydd plant o ysgol gynradd Grangetown yng Nghaerdydd ac ysgol gynradd Van Rhyn yn Namibia, de-orllewin Affrica, yn cyfarfod drwy gyswllt fideo rheolaidd, fel rhan o brosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Gyda lwc, bydd modd sefydlu cynllun cyfnewid yn y dyfodol, er mwyn i ddisgyblion allu teithio i ysgolion ei gilydd.
Dywedodd Rayno Gentz, athro yn ysgol gynradd Van Rhyn yn Windhoek: "Edrychwn ymlaen at bartneriaeth gydol oes rhwng y ddwy ysgol.
"Bydd rhannu gwybodaeth yn hanfodol ar y dechrau, a nod yn y tymor hir fyddai sefydlu rhaglen gyfnewid.
"Byddwn yn dechrau gyda sesiynau rheolaidd dros Skype, lle byddwn yn rhannu gwybodaeth am ein hysgolion ac yn trafod ein diwylliannau amrywiol."
Mae'r disgyblion yn Namibia yn edrych ymlaen at ddysgu am fywydau eu cyfoedion yng Nghymru.
Dywedodd Selma, o ysgol Van Rhyn: "Os bydd ein hysgol ni'n bartner i ysgol gynradd Grangetown yng Nghymru, bydd hyn yn ein gwneud yn deulu, yn fy marn i.
"Byddai'n gyfle braf, oherwydd mae partneriaeth yn allweddol ar gyfer cyfeillgarwch a llwyddiant hefyd. Dydw i ddim yn gwybod llawer am Gymru, ond mae arnaf eisiau dysgu rhagor."
Dywedodd Nkungano, disgybl arall: "Mae gennyf ddiddordeb chwilfrydig mewn darganfod mwy am ddiwylliannau'r DU, wrth i chi ddysgu am ein diwylliannau gwahanol ni."
Bydd y plant yn siarad am bynciau fel eu bwydydd traddodiadol, eu hieithoedd, eu baneri cenedlaethol a gweithgareddau yn yr ysgol.
Ychwanegodd Mweeneni, sydd hefyd yn ddisgybl yn ysgol Van Rhyn: "Gyda'n gilydd, byddwn fel un, a byddwn yn cyrraedd ein nodau."
Mae'n gyfle gwych i ddisgyblion Caerdydd gael gwybod sut beth yw bywyd mewn diwylliant gwahanol, filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Dywedodd Ayman, disgybl blwyddyn chwech, ei fod "ychydig yn nerfus ond llawn cyffro" ynghylch siarad â'r disgyblion yn Namibia, ac ychwanegodd Tasneem, disgybl blwyddyn pump: "Hoffwn gael gwybod am y gwahanol ddosbarthiadau a'r gwahanol bethau maen nhw'n ei ddysgu".
Dywedodd Louise O'Brien, athro yn ysgol gynradd Grangetown: "Roeddem yn ddiolchgar tu hwnt pan ddaeth Prosiect Phoenix i'n hysgol a gofyn i ni a hoffem gysylltu ag ysgol yn Namibia.
"Bydd yn brofiad dysgu gwych ar gyfer y ddwy ysgol, a gallwn ddatblygu dealltwriaeth go iawn o ddiwylliannau ein gilydd."
Mae Prosiect Phoenix, sy'n cefnogi Rhaglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia.
Mae'r prosiect yn ymdrin â themâu fel plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; menywod a chyfathrebu.
Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, neu'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae un o'r prosiectau eraill, y Porth Cymunedol, yn gweithio gyda phobl leol yn Grangetown i gefnogi gweithgareddau fel datblygu gardd gymunedol, noddi'r ŵyl flynyddol a chymryd rhan mewn digwyddiadau clirio sbwriel.