Mae Dr Jonathan Rourke wedi ennill Gwobr Aelod Ysbrydoledig y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
8 Mai 2019
Enwebwyd Dr Jonathan Rourke, Darllenydd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ei gymheiriaid am ei gyfraniad rhagorol at gefnogi ei gydweithwyr a'r gymuned wyddonol yn fwy eang mewn modd rhagweithiol a chynhwysol.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Rourke, o'r Cyfarfod Grŵp Diddordeb Dalton ar y cyd: "Roeddwn yn falch iawn o dderbyn y wobr hon – mae'n braf cael cydnabyddiaeth "swyddogol" am werth yr hyn a wnaethom.
"Mae holl waith caled yr Athro Mike George a minnau wrth sefydlu'r cyfarfod gwreiddiol yn bendant wedi dwyn fffrwyth. Mae'r gefnogaeth gychwynnol gan yr Athro Peter Tasker a David Cole-Hamilton wedi helpu cyfarfodydd Dalton i dyfu i fod y gynhadledd cemeg anorganig fwyaf yn y DU. Hoffwn ddiolch iddynt am y rôl a chwaraewyd ganddynt hefyd."
Yn ogystal â chael ei enwi'n enillydd y wobr, mae Dr Rourke yn cael tlws hefyd.
Yn ôl Dr Robert Parker, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Cemeg:
"Yn y bôn, mae'r wobr hon yn dathlu ymdrechion yr arwyr di-glod sy'n mynd yr ail filltir i gefnogi eu cydweithwyr a'n cymuned yn fwy eang. Dyma pam yr ydym mor eithriadol o falch o fod yn cyflwyno'r wobr hon i Dr Rourke.
"Mae'r wobr hon nid yn unig yn cydnabod ymdrech ragorol, ond mae hefyd yn ysbrydoliaeth i gydweithwyr gydol y gymuned gwyddorau cemegol i wneud popeth y gallant ar gyfer y bobl o’u cwmpas."
Mae Gwobr Aelod Ysbrydoledig y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn cydnabod ac yn dathlu'r aelodau a'r pwyllgorau creadigol ac ysbrydoledig sy'n cefnogi eu cymheiriaid a'r gymuned yn fwy eang mewn modd rhagweithiol a chynhwysol.