Caerdydd Creadigol yn ennill gwobr arloesedd
16 Mai 2019
Mae rhwydwaith o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol wedi ennill gwobr ar gyfer ei hagwedd arloesol at adeiladu partneriaethau sy'n para.
Mae gan Caerdydd Creadigol, a lansiwyd yn 2015, 2,450 o aelodau sy'n cynnwys cwmnïau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol ar draws Caerdydd a'r ddinas-ranbarth.
Sefydlwyd Caerdydd Creadigol gan Uned Economi Greadigol y Brifysgol, ac mae'n adeiladu ar gydweithrediadau cychwynnol gyda thri sefydliad blaenllaw: BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru (CMC).
Yn sgîl llwyddiant Caerdydd Creadigol, mae'r rhwydwaith wedi:
- curadu digwyddiadau, o weithdai i hustyngau, gyda dros 2,500 o bobl wedi mynd iddynt;
- datblygu presenoldeb cryf ar-lein gyda thudalen swyddi weithredol (1500 mewn tair mlynedd) a llwyfan atyniadol ar y cyfryngau cymdeithasol;
- gwaith ar fentrau ar draws y ddinas gyda phartneriaid eraill gan gynnwys S4C, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Golly Slater, Cyngor Celfyddydau Cymru, NESTA, ac Innovate UK;
- creu map cynhwysfawr o economi greadigol y ddinas.
Roedd y rhwydwaith yn bwerdy ar gyfer cais llwyddiannus am arian Strategaeth Ddiwydiannol, drwy Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Sefydlodd y cais – Clwstwr – dros 50 o bartneriaethau gyda darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu annibynnol, Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a chwmnïau ar draws y sectorau technoleg, creadigol a sgrîn, ynghyd â sefydliadau strategol fel Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru.
Drwy weithio gyda Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Llywodraeth Cymru, roedd Clwstwr ymhlith naw o brosiectau'r DU a ddewiswyd ar gyfer y ffrwd ariannu pum mlynedd mewn hyd.
Yn ôl yr Athro Justin Lewis, Uned Economi Greadigol, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, "Rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr Arloesedd mewn Partneriaeth yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni. Mewn tair mlynedd a hanner, mae Caerdydd Creadigol wedi datblygu mewn difrif i fod yn gyfrwng er lles creadigol. Ein nod yw troi Caerdydd yn brifddinas creadigrwydd ac rydym wedi bod yn ymdrechu i wireddu'r nod hwnnw drwy alluogi cydweithio, ymhelaethu ar gyfleoedd ac annog arloesedd. Ein dyfarniad diweddar yw'r grant AHRC mwyaf i'r Brifysgol ei gael erioed, ac mae'n gosod Caerdydd Creadigol wrth galon arloesedd y diwydiant creadigol ac Ymchwil a Datblygu."
Yn ôl Alison Copus, Cyfarwyddwr Marchnata Canolfan Mileniwm Cymru: "Rydym wrth ein boddau o rannu'r anrhydedd hwn fel un o'r partneriaid oedd yn sylfaenwyr. “Mae bod yn rhan o rwydwaith Caerdydd Creadigol yn gweddu i’n nod o ysbrydoli ein cenedl a chreu argraff ar y byd."
Yn ôl y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Yng Nghaerdydd, rydym yn gosod diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd ar flaen datblygiad y ddinas, felly rydym wrth ein boddau bod ein partneriaeth gyda Chaerdydd Creadigol wedi'i chydnabod am ei heffaith a'i harloesedd.
"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid i gefnogi'r sector, gan wneud yn siŵr bod talent a'r Diwydiannau Creadigol yn parhau i ffynnu yn ein dinas.'
Ychwanegodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Mae'r wobr hon yn cydnabod rôl Caerdydd Creadigol yn llwyddiant y sector yn y dyfodol. Mae'r rhwydwaith yn ein galluogi i yrru ein cysylltiadau'n ddyfnach, ffurfio cysylltiadau newydd a chyflwyno syniadau newydd a ffyrdd ffres o feddwl i ni."
Trefnir y Gwobrau, ar 3 Mehefin, gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.