Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar y rhestr fer ar gyfer gwobr effaith nodedig
8 Mai 2019
![ESRC Celebrating Impact logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/1491553/WCPP-Impact.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei dewis i fod yn rownd derfynol Gwobr Dathlu Effaith ESRC er mwyn cydnabod y ffordd y mae’n galluogi Gweinidogion i ddefnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau ynghylch polisi.
Mae’r wobr o fri, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu timau a ariennir gan ESRC sydd wedi cyflawni effaith economaidd neu gymdeithasol ragorol.
Mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis yn ôl proses drylwyr a gynhelir gan academyddion uwch, arbenigwyr ar ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1491568/Jennifer-Rubin.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Dyma gyfle gwych i wyddonwyr cymdeithasol gael cydnabyddiaeth am effaith eu gwaith. Mae’r enillwyr blaenorol wedi cynhyrchu gwaith ardderchog ar draws ystod o feysydd.”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1750667/610490-1579613855910.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Rydym wrth ein boddau bod ESRC yn dathlu’r effaith yr ydym wedi llwyddo i’w chael. Mae’n dystiolaeth o ba mor uchel yw ansawdd y gwaith y mae ein tîm yn ei gynhyrchu a’r ffordd y mae Gweinidogion Cymru wedi agor y broses lunio polisïau i’r dystiolaeth orau sydd ar gael.”
Mae’r ESRC wedi comisiynu ffilm broffesiynol am waith ac effaith y Ganolfan, fydd yn cael ei rhyddhau maes o law.
Cynhelir y seremoni wobrwyo yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 9 Gorffennaf 2019.