O atal rocedi V2 Hitler i hyrwyddo addysg i oedolion, mae Cyfres Ddarlithoedd Eileen Younghusband yn parhau
8 Mai 2019
Yr ail ddarlith flynyddol yn anrhydeddu bywyd eithriadol ymgyrchydd a dderbyniodd Medal Ymerodraeth Prydain
Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei holl gyn-fyfyrwyr. Ond mae ambell i gyn-fyfyriwr yn ysbrydolaeth lwyr. Un ffigur o'r fath yw Eileen Younghusband (nee La Croissette) a chaiff ei chyflawniadau nodedig eu coffau bob blwyddyn yn y Gyfres Darlithoedd Archwilio'r Gorffennol.
Roedd Eileen Younghusband (1921-2016) yn swyddog hidlo yn Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gweithio i asesu adroddiadau radar ac ymuno â'r tîm oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i rocedi V2 Hitler. Yn ddiweddarach, astudiodd gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol am 12 mlynedd cyn cwblhau gradd - yn 87 oed - gyda'r Brifysgol Agored a chyhoeddi ei chyfrol gyntaf Not an Ordinary Life. Cyhoeddodd lyfrau eraill ar ôl hynny, gan gynnwys y llyfr plant Eileen's War.
Roedd Eileen yn gefnogwr brwd y Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Addysg Barhaus a Phroffesiynol erbyn hyn), ac yn 2013 cafodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn toriadau i addysg oedolion yng Nghaerdydd.
Eleni, cyn-fyfyriwr arall fydd yn traddodi'r ddarlith goffa. Mae gan Dan Jewson sy'n fyfyriwr aeddfed, gysylltiad agos gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol. Dychwelodd i astudio drwy gyfrwng Archwilio Llwybr y Gorffennol ac erbyn hyn, ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, mae'n ymgeisydd doethurol AHRC yng Nghanolfan Hanes Meddygol Prifysgol Caerwysg yn ogystal ag adran Hanes Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil sylfaenol, a gefnogwyd yn flaenorol gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yn canolbwyntio ar hanes seiciatreg.
Dywedodd Dr Paul Webster, Cydlynydd Archwilio Llwybr y Gorffennol, "Rydym ni'n falch iawn i groesawu Dan i gyflwyno'r ail ddarlith goffa hon er cof am ddysgwr gwbl arloesol, Eileen Younghusband. Mae Eileen a Dan ill dau'n ysbrydoliaeth wirioneddol ac rydym ni'n falch iawn i gael y cyfle i ddathlu eu cyflawniadau dysgu gydol oes."
Yn narlith 2019, bydd Dan Jewson yn cynnig cyfle prin i 'glywed' cleifion yn siarad drostynt eu hunain drwy ei ymchwil diweddaraf ar fywyd cleifion yng Ngwallgofdy Morgannwg 1864 – 1914, sy'n edrych ar fywyd mewnol y gwallgofdy a 'gair mewnol' y claf. Gan ganolbwyntio'n benodol ar brofiadau menywod, mae cyfathrebiadau'r cleifion wrth wraidd y ddarlith, er mwyn datgelu'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng safbwyntiau, arferion ac ymatebion y rheini a ddygwyd i'r gwallgofdy, drwy lygaid yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.
Cynhelir Darlith Goffa Eileen Younghusband Patient life in the Glamorgan Lunatic Asylum 1864 – 1914 ar 12 Mehefin am 7.15pm yn Addysg Barhaus a Phroffesiynol, Ffordd Senghennydd, Caerdydd. Mynediad yn rhad ac am ddim, ac argymhellir cyrraedd yn gynnar.