Pedwar o academyddion y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru
7 Mai 2019
![Learned society of wales](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/1491032/about-the-learned-society-of-wales-logo.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi pedwar academydd o’r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, o gyfanswm o 11 o Brifysgol Caerdydd, ymhlith eu Cymrodyr newydd.
Mae pedwardeg wyth o Gymrodyr newydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd sy’n cwmpasu’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a’r tu hwnt. Mae pob un o’r Cymrodyr newydd wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion, a gweithwyr proffesiynol - ac mae gan bob un ohonynt gysylltiad cryf â Chymru.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2461415/126613-1601823903863.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Rydym wrth ein boddau bod cryfder yr ymchwil imiwnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ei gydnabod gan nid amgen na phedair Cymrodoriaeth newydd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ddod â chyfanswm y Sefydliad i naw. Mae’r ffaith bod cynifer o gymrodyr o’r Sefydliad yn gyflawniad sylweddol, a hoffwn longyfarch yn wresog pawb a fu’n llwyddiannus eleni, o’n Sefydliad a’r tu hwnt.”
Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru newydd y Sefydliad yw:
Mae Simon wedi arloesi mewn astudiaethau o lid a rheolaeth y system imiwnedd gan broteinau arbenigol a elwir yn gytocinau. Mae ei ymchwil wedi gwella dealltwriaeth o’r modd y mae cytocinau yn gweithredu mewn iechyd ac afiechyd, gan arwain at ddarganfyddiadau pwysig o ran diagnosio, dosbarthu a thrin cleifion gydag afiechydon llidiol megis arthritis gwynegol.
Mae Ian yn ymchwilydd sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol, gan ymchwilio, datblygu a chynhyrchu profion diagnostig biocemegol newydd ar gyfer clefydau dynol am dros drideg o flynyddoedd mewn amgylcheddau academig a masnachol, a hefyd yn y GIG. Mae technolegau a ddyfeisiwyd ganddo wedi eu trwyddedu i’w defnyddio gan gwmnïau rhyngwladol yn sylfaen i brofion diagnostig clinigol in vitro, a defnyddir cannoedd o filoedd ohonynt bob blwyddyn ledled y byd.
![Yr Athro Susan Wong](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/79049/susan_wong_300px.jpg?w=120&h=120&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Yr Athro Susan Wong
Professor of Experimental Diabetes & Metabolism
- wongfs@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 7000
Mae Susan yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei gwaith ar y celloedd imiwnedd sy’n gysylltiedig â’r ymosod ar gelloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn y pancreas mewn diabetes math 1. Mae ei hymchwil wedi helpu deall y prosesau sy’n arwain at ddatblygiad diabetes math 1 a sut y gellir defnyddio rhai o’r rhain er mwyn datblygu triniaethau imiwnedd at gyfer y cyflwr yn y dyfodol.
Fe wnaeth Bernhard arloesi darganfyddiad proteinau arbenigol yn y llif gwaed a elwir yn gemocinau, a’u derbynyddion ar gelloedd imiwnedd. Mae’r proteinau hyn yn hanfodol ar gyfer cyfeirio traffig y celloedd imiwnedd drwy’r corff yn ystod iechyd neu afiechyd. Mae darganfyddiadau Bernhard wedi arwain at fewnwelediadau i’r modd y mae ein system imiwnedd yn brwydro yn erbyn clefydau heintus a sut y mae’n cynnal iechyd meinweoedd.
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiad cyhoeddus o ragoriaeth, ac mae cryn gystadleuaeth; mae’n digwydd wedi archwiliad o gyflawniadau pob enwebai yn eu maes/meysydd perthnasol.
Dywedodd Sir Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:
"Mae’n dda iawn gennyf groesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu cyflawniadau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg, ac mae’n dda gen i eu bod yn cwmpasu ystod mor eang o ddisgyblaethau ymchwil a’r tu hwnt. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes academaidd ac ar draws bywyd cyhoeddus, yng Nghymru a thramor."
Wedi ei sefydlu yn 2010 mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn defnyddio gwybodaeth ei harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a rhoi cyngor polisi annibynnol. Mae’r ychwanegiad blynyddol o Gymrodyr newydd yn helpu’r Gymdeithas i gyflawni’r amcanion hyn.
Etholiad 2019 yw’r nawfed mewn proses dreigl tuag at greu Cymrodoriaeth gref a chynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymdeithas ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig o ran dysg.