Yr Ysgol Cerddoriaeth yn y 12fed safle yn y DU
7 Mai 2019
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth unwaith eto'n dathlu llwyddiant ar ôl cael ei henwi’n un o adrannau cerddoriaeth mwyaf blaenllaw'r DU yn The Complete University Guide 2020.
Yn y tablau cynghrair diweddaraf, cododd yr Ysgol bedwar lle i’r 12fed safle yn y DU am astudiaethau Cerddoriaeth, sy'n ein rhoi yn y 15% uchaf.
Gwnaeth yr Ysgol yn arbennig o dda o ran boddhad myfyrwyr, gan gyrraedd sgôr o 4.42, sy'n ein rhoi yn y 4ydd safle yn y DU. Roeddem hefyd yn y 7fed safle yn y DU ar gyfer ansawdd ein hymchwil.
Gwnaeth Prifysgol Caerdydd yn dda hefyd yn genedlaethol, gan godi i’r 26ain safle yn y DU a chadw ein lle fel y brifysgol orau yng Nghymru.
Mae’r Complete University Guide yn mesur dros 130 o brifysgolion y DU ar safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon i raddedigion a chaiff ei ddefnyddio gan nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion i helpu i lywio eu penderfyniadau.
Wrth sôn am ganlyniadau eleni, dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Go brin y gall tablau cynghrair fesur popeth am Ysgol, ond gan eu bod yn bodoli, mae cyrraedd safle da yn beth braf. Ac rydw i wrth fy modd gyda'n sgôr ragorol ar gyfer profiad y myfyrwyr!”