Gwobr Goffa Harrison-Meldola 2019
7 Mai 2019
Mae Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd Cemeg Anorganig a Chymrawd EPSRC ar Ddechrau ei Gyrfa, wedi cael Gwobr Goffa Harrison-Meldola 2019 gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am gyfraniadau rhagorol at ddatblygiadau mewn trawsnewidiadau trwy gyfrwng asid Lewis yn y prif grŵp.
Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) sy’n cyflwyno’r wobr i gydnabod gwreiddioldeb ac effaith gwaith ymchwil, neu am gyfraniad at ddiwydiant y gwyddorau cemegol neu addysg. Mae'n cydnabod pwysigrwydd gwaith tîm ar draws y gwyddorau cemegol, a datblygu partneriaethau llwyddiannus. Dewisir uchafswm o dri enillydd ar gyfer y gwobrau bob blwyddyn gan Weithgor Gwobrau RSC a byddant yn mynd ar deithiau darlithoedd ledled y DU.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Melen: "Rwyf wrth fy modd o fod wedi cael fy newis yn enillydd Gwobr Goffa Harrison-Meldola. Mae'n gryn fraint gwybod bod fy ngwaith ar drawsnewidiadau trwy gyfrwng asid Lewis yn y prif grŵp wedi'i gydnabod gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Yn ddiamheuol, bydd y Wobr hon yn codi fy mhroffil innau yn ogystal â phroffil cemeg y prif grŵp, fydd yn galluogi fy ymchwil a minnau i ennill cydnabyddiaeth fwy eang o fewn y cymunedau cemeg a gwyddoniaeth yn fwy eang."
Mae ymchwil Dr Melen yn canolbwyntio ar gatalyddion newydd nad ydynt yn dibynnu ar fetelau pontio prin a gwerthfawr sy'n gynhenid wenwynig, ac o ganlyniad wedi'u rheoleiddio i raddau helaeth. Mae hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu catalyddion 'gwyrdd' fydd yn cael effaith gadarnhaol ar nifer o faterion cymdeithasol byd-eang. Gyda dros 85% o gynhyrchion cemegol wedi'u creu drwy ddulliau catalytig, bydd symud i ffwrdd o fetelau pontio yn arbed arian ac yn golygu nad oes angen defnyddio elfennau gwenwynig.
Mae Dr Melen wedi ennill Gwobr Clara Immerwahr (2016), Gwobr Ymchwilydd Ifanc Ewrop (2014), a Gwobr Ymchwilydd Ifanc RSC Dalton (2013) am ei hymchwil yn y gorffennol.