Mae enillwyr Gwobrau Student Nursing Times 2019 wedi’u coroni
7 Mai 2019
Cafodd rhaglen Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd o Brifysgol Caerdydd eu cyhoeddi’n enillwyr haeddiannol Darparwr Addysg Nyrsio (Ôl-gofrestru) yng ngwobrau Student Nursing Times 2019.
Ar ôl derbyn mwy o geisiadau nag erioed eleni, cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Student Nursing Times mewn seremoni yn Grosvenor House, Llundain, brynhawn Gwener 26 Ebrill. Cafodd myfyrwyr nyrsio, prifysgolion a sefydliadau ar draws y gymuned myfyrwyr nyrsio eu hanrhydeddu mewn 21 categori i ddathlu cyflawniad eithriadol.
Ar ôl rhagori yn ystod y broses feirniadu drylwyr, dewiswyd y tîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol fel enillydd y Darparwr Addysg Nyrsio (Ôl-gofrestru). Cafwyd canmoliaeth gan y beirniaid am eu harddull addysgu arloesol, eu hymgysylltiad â myfyrwyr a’u hangerdd at ymweliadau iechyd.
Dywedodd Steven Ford, golygydd Nursing Times a chyflwynydd Gwobrau Student Nursing Times <'Mae’n deg dweud, bod ennill eich lle ar y rhestr fer yn dipyn o gamp, a dylech i gyd fod yn falch iawn o’ch hunain.'<
Dywedodd y Darlithydd Michelle Moseley, ‘<Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr hon, ond i’n myfyrwyr, athrawon ymarfer a’r byrddau iechyd sydd wedi helpu i gyflwyno’r rhaglen y mae’r diolch. Rydym yn dîm sy’n frwd dros rôl yr ymwelydd iechyd, a’r modd y gallwn ddylanwadu’n gadarnhaol at ddyfodol plentyn. Mae’n wych gallu rhoi’r Ysgol a’r Brifysgol ar y map!’
Cewch ragor o wybodaeth am Wobrau Student Nursing Times yn studentawards.nursingtimes.net