Gall Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd ‘drawsnewid bywydau'
3 Mai 2019
Yn ôl Michael Sheen, actor Hollywood, gall pêl-droed helpu i drawsnewid bywydau wrth i Gaerdydd baratoi i gynnal Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd 2019.
Bydd dros 500 o chwaraewyr sy’n cynrychioli dros 50 o wledydd yn teithio i Gaerdydd i chwarae mewn gŵyl bêl-droed. Nod y digwyddiade yw ceisio helpu pobl ddigartref ac sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol i gael gwell dyfodol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gefnogi'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ym Mharc Bute rhwng dydd Sadwrn 27 Gorffennaf a dydd Sadwrn 3 Awst.
Rydym yn cynnig cymorth ymarferol trwy groesawu cannoedd o chwaraewyr a phersonél o bwys i aros yn neuaddau preswyl Tal-y-bont, Prifysgol Caerdydd.
Mae Dr Pete Mackie o'n Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn rhannu ei arbenigedd rhagorol ym maes tai a digartrefedd gyda'r trefnwyr, er mwyn llywio mentrau a allai effeithio ar ddigartrefedd yn y ddinas yn dilyn y chwiban olaf.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd gan Sefydliad Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd. Bydd elusen cynhwysiant cymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru yn ei chefnogi.
Arweiniwyd y cais gan Sheen, yr actor a'r ymgyrchydd o Gymru, sy'n chwarae rhan ymarferol yn y broses o drefnu'r digwyddiad.
Dywedodd: “Rydw i am i Gwpan Pêl-droed Digartref y Byd 2019 greu cyfleoedd i newid. Bydd y rhain yn cael eu llywio gan y rhai sydd ar flaen y gad yn y meysydd hyn, ac yn cael eu cyflwyno gan genedl gyfan mewn ysbryd o dosturi a chydweithrediad, rhinweddau yr ydym wedi ymfalchïo ynddynt ac rydym yn falch ohonynt.
Mae gan y Brifysgol ymrwymiad cryf i ddigartrefedd, ac mae ein harbenigwyr yn llywio’r drafodaeth gyhoeddus ac yn dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth drwy ymchwil.
Mae ein hymchwil yn edrych ar sawl agwedd ar ddigartrefedd gan gynnwys tai fforddiadwy, iechyd meddwl, allgáu cymdeithasol, anghenion iechyd a chyfleoedd i gael gwaith.
Mae'r ymchwil hon yn cael effaith sylweddol ar gymdeithas ehangach ac mae'n rhan bwysig o'n hymrwymiad i'n cymunedau - rydym yn ei alw'n ‘genhadaeth ddinesig’.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Cwpan Pêl-droed Digartref y Byd yng Nghaerdydd a chroesawu'r timau a'r hyfforddwyr o bob cwr o'r byd.
“Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at lawer o'r materion cymhleth sy'n cyfrannu at ddigartrefedd a bydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.”
Dywedodd Keri Harris, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Pêl-droed Stryd Cymru, a Rheolwr Sgwad y ddau dîm yng Nghymru yng Nghwpan Pêl-droed Digartref y Byd: Mae Pêl-droed Stryd Cymru wedi cael effaith enfawr ar ein chwaraewyr yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Rydym yn amcangyfrif ein bod wedi gweithio gyda dros 8,000 o chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwnnw gan effeithio’n bennaf ar iechyd corfforol a meddyliol, hyder a hunan-barch, gostyngiad mewn camddefnyddio sylweddau a helpu pobl i deimlo'n llai unig.”