Ewch i’r prif gynnwys

Y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn ennill achrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da

2 Mai 2019

Central Biotechnology Services logo

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill achrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP) yn dilyn archwiliad llwyddiannus ym mis Ebrill 2019.

System ansawdd ryngwladol wedi hen sefydlu ar gyfer labordai yw GCLP, sy’n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â’r rheoliadau Ymarfer Clinigol Da (GCP).

Mae GCLP yn sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data treialon clinigol a gynhyrchwyd gan labordy. Trwy gydymffurfio â safonau GCLP, rydym wedi dangos ein bod yn cynnal gonestrwydd data treialon clinigol a’n bod yn cynnig canlyniadau treialon clinigol dadansoddol sy’n gyson, yn anchwiliadwy ac yn ailadroddadwy. Bydd archwilwyr allanol yn ein monitro bob blwyddyn er mwyn cynnal yr achrediad hwn.

Mae eisoes gennym hanes profedig dros sawl blwyddyn o gynnal treialon clinigol i’r safon hon, yn dilyn archwiliadau nawdd o ystod o gleientiaid gan gynnwys y Catapwlt Therapi Genynnau a Chelloedd.

Rydym wrth ein boddau o gael yr achrediad newydd hwn sy’n cadarnhau ein bod yn gweithio i safonau GCLP a’n bod yn awyddus i wneud mwy o waith i gefnogi treialon clinigol allanol.

Gallwn hefyd roi cyngor i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd o ran anelu at y safon hon neu gynnal gwaith ar sail contract.

Cysylltwch â nios hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Diolch i bawb a’n helpodd i ennill yr achrediad newydd a phwysig hwn sy’n cyd-fynd yn dda iawn â’n hachrediad ISO 9001:2015.

Rhannu’r stori hon