Cludo pysgod a lleihau heintiau
2 Mai 2019
Mae cludo pysgod adref mewn bagiau plastig o'r siop anifeiliaid anwes, neu wrth weithgynhyrchu bwyd, yn cynyddu'r perygl o heintiau, yn ôl ymchwil o Brifysgol Caerdydd.
Pysgod yw'r anifeiliaid anwes mwyaf poblogaidd yng nghartrefi gwledydd y gorllewin, a'r ffynhonnell o brotein anifail sy'n cael ei fwyta fwyaf yn rhyngwladol. Yn ôl ymchwil newydd, mae dod i gysylltiad cynyddol â straen, fel codi a chario neu gludo, yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd a lles.
Yn ôl Numair Masud o Brifysgol Caerdydd: "Wrth i'r galw gan bobl am bysgod barhau i gynyddu, nid oes arwydd bod y masnach byd-eang mewn pysgod yn arafu ac rydym yn gweld mwy a mwy o rywogaethau ecsotig yn cael eu cludo'n fyw wrth fasnachu anifeiliaid anwes.
"Bagiau polythen yw'r dull mwyaf cyffredin o gludo pysgod byw. Caiff hyn ei gysylltu â tharfu ar y pysgod, ac o bosibl mae'n rhywbeth allai fod yn effeithio ar y pysgod, ond nid oes ymchwil lawn wedi'i chynnal yn ei gylch, hyd yn hyn."
Roedd yr ymchwil yn Ysgol y Biowyddorau wedi edrych ar gyfraddau heintiau mewn pysgod y tarfwyd arnynt drwy eu cludo mewn bagiau plastig, a chymharu hynny â chenhedlaeth newydd o fagiau cludo sydd wedi'u dylunio i ostwng tarfu mecanyddol.
"Daeth i'r amlwg i ni fod pysgod wnaeth brofi tarfu mecanyddol yn fwy tebygol o gael haint, o'u cymharu â physgod nad oedd wedi profi'r straen hynny wrth gael eu cludo.
"Ni chafodd hynny ei leddfu gan y genhedlaeth newydd o fagiau cludo.
"Gyda chlefydau heintus yn parhau i fod yn un o'r heriau pennaf a brofir gan y diwydiannau bwyd ac anifeiliaid anwes, mae'n rhaid i ymchwil i'r hyn sy'n peri straen i anifeiliaid o ganlyniad i weithredoedd pobl gael blaenoriaeth os yw'r diwydiant anifeiliaid byd-eang i barhau'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau yn y dyfodol," ychwanegodd Numair.