Enwebiadau a gwobrau ar gyfer myfyrwyr newyddiaduraeth
1 Mai 2019
Mae Will Hayward, myfyriwr graddedig Newyddiaduraeth Newyddion, wedi’i enwebu mewn pum categori yn y Gwobrau Gwasg Ranbarthol eleni.
Mae’r gwobrau, a drefnir gan Society of Editors, yn dathlu newyddiaduraeth gorau Prydain ar lefel ranbarthol a lleol.
Bydd Will, sy’n Ohebydd Materion Cymdeithasol i WalesOnline, yn cystadlu ar gyfer y gwobrau canlynol yn y seremoni y mis hwn: Awdur Erthyglau Nodwedd, Colofnydd, Newyddiadurwr y Cyfryngau Cymdeithasol a Newyddiadurwr Data.
Yn ymuno â Will yn y categori Adrodd am Gymunedau, fydd Liz Perkins (South Wales Evening Post) a raddiodd o'r cwrs Newyddiaduraeth Newyddion hefyd.
Bydd yr ysgol yn cael ei chynrychioli hefyd yng nghategori Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn, gan Conor Gogarty (Gloucestershire Live) ac Aamir Mohammed (WalesOnline).
Yn cwblhau’r gynrychiolaeth wych eleni, fydd Sam Ferguson (SW Argus), fydd yn gobeithio ennill gwobr Ymgyrch y Flwyddyn – Papur Dyddiol.
Dywedodd Mike Hill, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Newyddion, “Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r gwaith gwerthfawr iawn a wneir gan newyddiadurwyr lleol ar-lein ac mewn print. Mae eu sgiliau digidol a’u hymrwymiad i newyddiaduraeth o safon yn cael eu cynrychioli’n glir yn yr enwebiadau hyn.”
“Hoffwn longyfarch bob un ohonynt a dymuno’n dda iddynt ar y noson.”
Cynhelir y gwobrau ddydd Gwener 17 Mai 2019 yn Savoy Place, Llundain.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
Mae’r newyddiadurwr, Syed Muhammad Abubaker, sy’n astudio Newyddiaduraeth Ryngwladol yn yr Ysgol ar hyn o bryd, eisoes yn dathlu cael cydnabyddiaeth gan Wobr Newyddiaduraeth Amgylcheddol Asia (AEJA) ar gyfer ei waith rhagorol yn adrodd am yr amgylchedd.
Mae’r gwobrau yn anrhydeddu unigolion a sefydliadau sy’n cyhoeddi straeon newyddion am faterion cynaliadwyedd sy’n wynebu’r blaned ac Asia yn benodol.