Academyddion yn cael eu hanrhydeddu
1 Mai 2019
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi 11 academydd o Brifysgol Caerdydd ymhlith y Cymrodyr etholedig newydd.
Mae deugain ac wyth o Gymrodyr newydd wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru eleni o feysydd ar draws y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a thu hwnt. Mae’r Cymrodyr newydd oll wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol – ac mae gan bob un gysylltiad cryf â Chymru.
Meddai'r Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor, ac un o gymrodyr etholedig eleni: “Mae'n anrhydedd mawr bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi fy nghydnabod i a nifer o'm cydweithwyr yn y Brifysgol.
“Mae'r Gymdeithas yn chwarae rôl hanfodol o ran hyrwyddo ymchwil y genedl a gwneud y mwyaf o'i chyrhaeddiad. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig hwn ochr yn ochr â grŵp nodedig o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad mor sylweddol at ddatblygu a chymhwyso ymchwil Cymru.”
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.
Y rheini sy’n ymuno â’r Gymrodoriaeth eleni yw:
- Yr Athro Davide Bonifazi, Athro Cemeg Uwchfoleciwlaidd yn yr Ysgol Cemeg
- Yr Athro Samuel Evans, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg
- Yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Athro mewn Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Diwinyddol, a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Islam yn y DU (Islam-UK)
- Yr Athro David Wyn Jones, Athro yn yr Ysgol Cerddoriaeth
- Yr Athro Simon Jones, Deon Ymchwil, ac Arweinydd Thema Haint, Llid ac Imiwnedd
- Yr Athro Malcolm Mason, Athro yn yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Athro Bernhard Moser, Athro yn yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Athro Stuart Palmer, Cadeirydd y Cyngor
- Yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesi Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Athro Susan Wong, Athro Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu 48 o Gymrodyr newydd i’r Gymdeithas. Mae eu hetholiad yn cydnabod eu llwyddiannau unigol a’u cyfraniadau i fyd dysg ac rwyf i’n falch eu bod yn cwmpasu’r fath rychwant o ddisgyblaethau ymchwil a thu hwnt. Bydd ychwanegu’r Cymrodyr newydd hyn yn cryfhau ein gallu i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus yng Nghymru a thramor.”