Myfyrwyr Caerdydd yn cyflwyno yng nghynhadledd Cyd-fenter
30 Ebrill 2019
Fe wnaeth grŵp o fyfyrwyr y gyfraith Caerdydd gyflwyno mewn cynhadledd ar y gyfraith parthed Cyd-fenter yn ddiweddar.
Teithiodd y myfyrwyr Flore Gustave, Ruth Osibanjo, Maddy Semple, Antonia Wilkinson (LLB) ac En Soon (BPTC) i Lundain ar 25 Mawrth i gymryd rhan yn y gynhadledd a drefnwyd gan Joint Enterprise - Not Guilty by Association (JENGbA), grŵp ar lawr gwlad sy’n ymgyrchu dros newidiadau i’r gyfraith parthed Cyd-fenter.
Mae achosion Cyd-fenter fel arfer yn cynnwys mwy nag un person yn cael ei euogfarnu am drosedd. Mae hyn yn golygu’n aml y gall unigolion sy’n bresennol pan gaiff trosedd ei gyflawni gael eu heuogfarnu am drosedd hyd yn oed os nad nhw oedd y person a fwriodd yr ergyd neu saethu’r gwn.
Eleni, mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi bod ynghlwm wrth Brosiect Apeliadau Cyd-fenter JENGbA, ac mae ein myfyrwyr wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd ar gyfer apêl mewn pum achos gwahanol. Mae’r myfyrwyr wedi eu goruchwylio gan Maria Keyse o Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol yr Ysgol (CPLS), ac mae’r prosiect wedi bod yn rhan o weithgareddau pro bono yr Ysgol.
Cafodd y grŵp a gyflwynodd eu canfyddiadau yn y gynhadledd gyfle hefyd i gwrdd a thrafod â Gloria Morrison, un o gyd-sylfaenwyr JENGbA.
Wrth siarad wedi’r gynhadledd, dywedodd Maria Keyse, goruchwyliwr y prosiect: “Roedd yn hyfryd gweld pob un o’r pum myfyriwr yn codi a chyflwyno eu canfyddiadau yng nghynhadledd JENGbA. Rwy’n gwybod yr oeddent yn nerfus, ond roeddent oll yn wych. Mae Cyd-fenter yn elfen gymhleth iawn yng nghyfraith y DU, felly roedd gweld ein myfyrwyr yn ei thrafod mewn modd mor wybodus yn wych. Cawsant hefyd gyfle i drafod ag aelodau teulu carcharorion sydd wedi eu heuogfarnu am droseddau y maent yn taeru nas cyflawnasant, felly mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y gwaith y mae ein myfyrwyr yn ei wneud gyda JENGbA wrth roi gobaith i’r rheiny sydd wedi eu heuogfarnu ar gam.”