Stiwdio Fertigol Caru Grangetown yn ystyried syniadau ar gyfer y Pafiliwn Grange newydd
30 Ebrill 2019
Y mis hwn, bu deuddeg o fyfyrwyr israddedig o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau Sefydliad Elusennol Corfforedig Pafiliwn Grange am dair wythnos i drafod syniadau ar gyfer y Pafiliwn Grange newydd.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn cynnal sgyrsiau o amgylch Grangetown i weld sut y gall bobl, gweithgareddau, yr adeilad a’r tirwedd gefnogi amcanion Pafiliwn y Grange i fod yn ‘lle sy’n croesawu pawb’.
Drwy weithio gyda Sefydliad Elusennol Corfforedig Pafiliwn Grange, Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, a’r pensaer Dan Benham sydd mewn partneriaeth â grŵp IBI, trosglwyddwyd pob sgwrs yn ddarluniau ac yn fodel, gan ddod â digwyddiadau Pafiliwn Grange yn fyw. Bydd yr adeilad yn agor ddechrau 2020. Bydd y darluniau a’r model yn cael eu harddangos yng Ngŵyl Grangetown, a bydd sgyrsiau yn parhau i lywio’r prosiect wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.
Dywedodd aelod o Fwrdd Pafiliwn Grange: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r lluniau a grëwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ystod y prosiect Stiwdio Fertigol ddiweddar. Mae’r lluniau yn cynrychioli diwrnod ym mywyd Pafiliwn Grange ac yn ein galluogi i ddychmygu ein hunain yn yr adeilad newydd - rydym yn edrych ymlaen yn fawr!”
Mae Pafiliwn y Grange yn brosiect o dan arweiniad cymuned Grangetown a chaiff ei reoli gan Gymunedau Grangetown o dan brydles 99 mlynedd, gyda chymorth gan bartneriaid sefydliadol Prifysgol Caerdydd, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Tai Taf, RSPB a Choleg Caerdydd a’r Fro. Mae hyn wedi dod yn bosibl gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Garfield Weston, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Moondance, a llawer mwy. Cysylltwch â Lynne Thomas am ragor o wybodaeth am Bafiliwn Grange neu ynghylch ymuno â Sefydliad Elusennol Corfforedig Pafiliwn Grange (Sefydliad Elusennol Corfforedig).
Lynne Thomas
Community Gateway Project Manager (Maternity Cover)
- Siarad Cymraeg
- thomasl90@caerdydd.ac.uk
- +44 (0) 29 2087 0456