Gwneud dewisiadau anodd
30 Ebrill 2019
Athro Cyfreitheg o Rydychen fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yng Nghaerdydd
Mae gwneud dewisiadau anodd yn rhywbeth rydym ni i gyd yn ei wynebu. Mewn byd sy'n wynebu cynhesu byd-eang er enghraifft: a ddylwn i roi'r gorau i fy nghar? Gyda phoblogaethau'n ehangu ac adnoddau'n crebachu, a ddylwn i fod yn figan neu a ddylwn i gael plant? Pa yrfa ddylwn i ei dilyn? Gyda chymaint o angen drwy'r byd, faint ddylwn i ei roi i elusen?
Bydd Darlith Flynyddol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yng Nghaerdydd eleni'n dod ag arbenigedd athronydd blaenllaw i'n helpu i ddeall beth sy'n gwneud dewisiadau'n anodd a sut y gallai'r ffordd rydym ni'n meddwl amdanynt newid.
Yn y sgwrs amserol hon, bydd yr Athro Ruth Chang yn esbonio beth yw dewisiadau anodd a beth, yn benodol, sy’n eu gwneud nhw’n anodd. Mae wedi dod i’r amlwg bod datgysylltiad rhwng y ffordd rydym yn cysylltu â’r byd a’r penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud. Drwy feddwl am ein lle yn y byd mewn ffordd wahanol, rydym yn canfod ffordd unigryw o feddwl am ein penderfyniadau anodd a sut i’w hwynebu.
Yr Athro Chang yw Deiliad Cadair Cyfreitheg Prifysgol Rhydychen. Mae ei Ted talk ar ddewisiadau anodd wedi cyrraedd cynulleidfa fyd-eang o dros saith miliwn. Mae ei gwaith academaidd presennol yn ymwneud â natur gwerthoedd a rhesymau, gwneud penderfyniadau a rhesymu, cariad ac ymrwymiad, a natur yr hunan.
A hithau wedi bod yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Rutgers yn yr Unol Daleithiau, mae'r cyfreithiwr a drodd yn academydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys gemau fideo, cynhyrchion fferyllol, targedu gweithwyr, bancio a chyllid, ac amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llynges yr Unol Daleithiau, y CIA, National Geographic a Banc y Byd. Mae ei gwaith yn cynnwys achos pro bono ar y gosb eithaf a sawl achos yn ymwneud ag atebolrwydd cynnyrch a chamarfer meddygol fel cydymaith cyfreithiol.
Cynhelir Dewisiadau Anodd, Darlith Flynyddol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yng Nghaerdydd ddydd Iau 16 Mai am 7pm ym Mhrifysgol Caerdydd [Darlithfa Wallace, Prif Adeilad, Plas y Parc, CF10 3AT]. Mynediad am ddim a drysau'n agor am 6.30pm. Nid oes angen archebu. Mae nifer cyfyngedig o lefydd, felly dewch yn gynnar.
Mae cangen Caerdydd o'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn cynnal digwyddiadau rheolaidd a gaiff eu hysbysebu ar eu gwefan Athroniaeth Gyhoeddus yng Nghaerdydd
Gosodwyd Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn bedwerydd am effaith ei hymchwil yn REF2014, yr ymarfer asesu ymchwil diweddaraf. Mae'r MA mewn Athroniaeth ar gael ar sail lawn amser a rhan amser, gydag ymgeisio ar-lein yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am ysgoloriaethau megis Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr y Brifysgol.