Mae Hawliau Menywod yn Hawliau Dynol
29 Ebrill 2019
Wales Assembly of Women yn cydnabod ymchwil gan ôl-raddedigion o Brifysgol Caerdydd.
Mae ôl-raddedigion o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol wedi cipio dwy o dair gwobr nodedig er cof am fenyw o Gymru a fu’n ymgyrchu dros hawliau menywod ar draws y byd.
Caiff Gwobrau Coffa Audrey Jones am Ymchwil gan Fenywod, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, eu cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol Wales Assembly of Women.
Thema’r gynhadledd eleni yw Mae Hawliau Menywod yn Hawliau Dynol: Gwella Hawliau Menywod yng Nghymru.
Caiff Ruth Nortey (MSc, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol) a Christina Thatcher (PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth) eu hanrhydeddu yn y gynhadledd, ochr yn ochr â Dr Kathryn Addicott o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd pob un ohonynt yn casglu eu gwobrau gan Ddirprwy Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, Jane Hutt AC.
Byddant yn rhoi cyflwyniadau byr am eu gwaith yn ystod sesiwn y prynhawn gyda Menywod Anabl mewn Bywyd Cyhoeddus yng Nghymru (Ruth Nortey) a ‘Say their Name’: Cipolwg ar y ffordd y mae menywod yn siarad ac yn ysgrifennu am brofedigaeth trwy Ddibyniaeth (Christina Thatcher).
Yn ystod ei gyrfa hir, cynrychiolodd Audrey Jones Gymru ar Gyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig a chyfrannu at ymgynghoriadau a thrafodaethau’r Cenhedloedd Unedig am hawliau menywod ledled y byd. Bu’n addysgu am 40 mlynedd yn Ysgol Gyfun Sant Cyres ym Mhenarth, gan ymddeol yn ddirprwy bennaeth yno ym 1990. Bu farw yn 2015 yn 84 oed. Mae’r gwobrau yn ei henw bellach yn eu pedwaredd flwyddyn.
Dywedodd cydlynydd Gwobrau Coffa Audrey Jones, Dr Jane Salisbury:
“Cawsom ein plesio gan ansawdd y cynigion y gwnaethom eu derbyn eleni. Roedd Audrey bob amser yn teimlo bod gormod o ganfyddiadau ymchwil yn cael eu cuddio o’r cyhoedd o hyd. Byddai hi wrth ei bodd o wybod bod llwyfan newydd ar gyfer ysgolheigion benywaidd wedi’i sefydlu yn ei henw.”
Bydd Cadeirydd Wales Assembly of Women, yr Athro Jackie Jones, yn siarad yn y digwyddiad am 40 mlynedd o hawliau rhyngwladol i fenywod, yn ogystal â Kim Ann Williamson MBE ynghylch masnachu pobl yng Nghymru. Bydd prif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, hefyd yn trafod yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
Sefydliad annibynnol anllywodraethol ar gyfer menywod yng Nghymru sydd wedi’i achredu gan Gyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig yw The Wales Assembly of Women. Mae ei gynrychiolwyr wedi bod ym mhob prif gynhadledd fyd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer menywod ers Nairobi ym 1985.
Cynhelir cynhadledd Wales Assembly of Women 2019 ddydd Sadwrn 11 Mai [10am – 3.30pm] yn Adeilad Morgannwg Prifysgol Caerdydd. Mae tocynnau ar gyfer y gynhadledd ar gael ar-lein (£12 gan gynnwys cinio a lluniaeth).