Dysgwyr ieithoedd yng Nghaerdydd yn cwrdd â chymheiriaid o Senegal mewn prosiect cyfnewid rhithwir
1 Chwefror 2019
Mae platfform ar-lein newydd i gynorthwyo rhyngweithio rhwng dysgwyr ieithoedd a siaradwyr brodorol wedi hwyluso’r gyfnewidfa gyntaf rhwng myfyrwyr o Gaerdydd a Senegal.
Fe wnaeth israddedigion o’r Ysgol Ieithoedd Modern a myfyrwyr ym Mhrifysgol Rithwir Senegal a Phrifysgol Cheikh Anta Diop yn Dakar gyfathrebu am y tro cyntaf ym mis Ionawr eleni drwy ddefnyddio platfform ar-lein Bili.
Platfform cyfnewid ar-lein yw Bili a grëwyd gan yr athro ieithoedd uwchradd, Charlie Foot. Mae’r platfform wedi ei gynllunio i helpu myfyrwyr i ddianc o bedair wal yr ystafell ddosbarth a rhyngweithio’n gyson â siaradwyr brodorol i roi eu sgiliau iaith ar waith.
Mae’r gyfnewidfa rhwng Caerdydd a Senegal yn rhan o raglen newydd y Cyngor Prydeinig, ‘English Connects’, sy’n ceisio cysylltu’r DU ag ieuenctid Affrica drwy gyfrwng y Saesneg.
Dywedodd Cathy Molinaro a Marie Gastinel-Jones, sy’n arwain y prosiect ar ran Yr Ysgol Ieithoedd Modern: “Dyma brosiect gwych ofnadwy sy’n mynd â dysgu y tu hwnt i’r ystafell dosbarth draddodiadol. Mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen at gwrdd â’u cymheiriaid o Senegal a darganfod rhagor am ran o’r byd Ffrangeg ei iaith na fyddent wedi cael cyfle i’w ddarganfod yn ystod eu hastudiaethau fel arall. Byddant yn cyfnerthu eu sgiliau ieithyddol ar yr un pryd ag archwilio diwylliannau newydd. Bydd hyn yn eu paratoi ar gyfer eu hastudiaethau yn ystod eu blwyddyn dramor a hefyd ar gyfer eu swyddi yn y dyfodol.”
Dywedodd Alison Devine, Arweinydd Saesneg mewn Addysg ar gyfer y Cyngor Prydeinig yn Affrica Is-Sahara: “Trwy gysylltu myfyrwyr yn y DU yn uniongyrchol â’u cymheiriaid yn Senegal am y tro cyntaf, bydd y prosiect hwn nid yn unig yn cefnogi israddedigion Saesneg eu hiaith a Ffrangeg eu hiaith fel ei gilydd gyda’u sgiliau ieithyddol, ond hefyd eu cymell i ehangu eu gorwelion gyda chyfeillgarwch newydd mewn llefydd newydd. Mae technolegau ar-lein yn darparu cyfleoedd newydd, arloesol i’r DU gysylltu ag Affrica a meithrin perthnasau rhyngddiwylliannol.”
Siaradodd Bernadette Holmes MBE, arweinydd ymgyrchoedd Speak to the Future, sef yr ymgyrch genedlaethol dros ieithoedd, am arwyddocâd y prosiect cyfnewid cyntaf hwn yn lansiad y prosiect: “Bydd llwyddiant byd-eang yn y dyfodol yn dibynnu ar bobl ifanc sy’n gallu cysylltu ag eraill a chydweithio’n effeithiol ar draws ffiniau, gan greu a chynnal perthnasau a sylfaenwyd ar ymddiriedaeth a pharch cilyddol. Mae Bili’n gwneud y cyfryw gysylltiadau yn bosib drwy ei blatfform dysgu rhyngwladol arloesol.”