Baner Enfys ‘Fyw’ wedi blodeuo’n llawn
25 Ebrill 2019
![Rainbow flag made of plants](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1484460/rainbow-flag-landscape.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae baner Enfys 'fyw' y Brifysgol bellach wedi blodeuo'n llawn i ddathlu cymuned LGBT+ y Brifysgol.
Cafodd y gwahanol flodau - cennin pedr, tiwlipau, dail pen neidr, clychau dulas, fioledau a mintys - eu plannu y tu allan i'r Prif Adeilad ar Blas y Parc yr hydref diwethaf i gynrychioli lliwiau'r faner.
Cafodd y prosiect ei arwain gan Lee Raye o Dîm Cynnal a Chadw'r Tiroedd a'i gefnogi gan Swyddfa'r Is-Ganghellor, Ystadau ac Enfys, rhwydwaith Staff LGBT+ y Brifysgol.
Roedd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, a'r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, ymysg y nifer o staff a myfyrwyr a blannodd y bylbiau.
Dywedodd Lee: “Roedd hi’n fraint cael cymryd rhan yn y prosiect hwn i greu baner Enfys fyw.
“Cafodd y prosiect hwn gefnogaeth wych gan y gymuned LGBT+ a'r Brifysgol yn gyffredinol.
“Rwy'n credu mai ni yw'r Brifysgol gyntaf yn y byd i ddangos ein balchder trwy greu baner Enfys fyw.”
Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd bod Prifysgol Caerdydd wedi codi i’r 11eg safle yn arolwg blynyddol Stonewall o 100 cyflogwr gorau’r DU i bobl LGBT+.
Baner Enfys yw symbol y gymuned LGBT+ a mudiad pride, a chafodd ei chreu ym 1978.