Ewch i’r prif gynnwys

Y Saith Ysblennydd

19 Chwefror 2019

Man delivers presentation
Professor Mann and colleagues have helped many of the world’s top companies create stronger intellectual property and participated in the creation of over 500 inventions.

Mae arbenigwr mewn arloesedd systematig wedi cyflwyno cynulleidfa o ymarferwyr busnes, academaidd a thrydydd sector i ‘gyflenwi egwyddor gyntaf’ yn Sesiwn Hysbysu Brecwast ddiweddaraf Ysgol Busnes Caerdydd.

Gwnaeth yr Athro Darrell Mann, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Technegol Systematic Innovation, amlinellu’r ffyrdd y mae ei sefydliad yn gweithio ar draws disgyblaethau busnes i gyflawni arloesedd drwy ddadansoddi pob prosiect ar lefel yr egwyddor gyntaf.

Yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf, mae’r Athro Mann a’i gydweithwyr wedi helpu llawer o gwmnïau gorau’r byd i greu eiddo deallusol cryfach ac wedi cymryd rhan yn y gwaith o greu mwy na 500 o ddyfeisiau.

“Dyna beth sy’n ein galluogi i fynd i bob gwahanol ddiwydiant bron gyda neges sy’n dweud, os ydym yn deall eich diwydiant ar y lefel egwyddor gyntaf hon, mae’n bur debyg y byddwn yn llwyddo i gyflenwi arloesedd.”

Yr Athro Darrell Mann Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Technegol Systematic Innovation

Terabeitiau a therabeitiau o wybodaeth

Trwy gyfres o astudiaethau achos a oedd yn ymdrin â’r sectorau yswiriant, gwasanaethau TGCh, cyfryngau cymdeithasol a deallusrwydd artiffisial, dangosodd yr Athro Mann mai’r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o arloesi yw drwy’r gylchred ddata rinweddol.

Meddai’r Athro Mann: “Os oes terabeitiau a therabeitiau o wybodaeth yn dod i mewn i algorithmau sefydliadau bob dydd, yna maen nhw’n mynd i ddysgu’n gyflym iawn.

“A phan ydych wedi hyfforddi’r algorithmau hynny ar yr hyn i edrych amdano, yna byddant yn dysgu’n gyflymach. Bydd hyn yn arwain at gylchred rinweddol lle po fwyaf o ddata rydych chi’n ei gael, gorau’n byd y gallwch baratoi’r peth nesaf. Gallai’r rhain fod yn gynhyrchion neu’n ymgysylltiad sy’n annog cwsmeriaid i rannu rhagor o wybodaeth.”

Straeon llwyddiant gwyrdroi prosesau

Ar ôl creu darlun eithaf pesimistaidd o’r dirwedd arloesi yn hanner cyntaf ei gyflwyniad, trodd yr Athro Mann at straeon llwyddiant cwmnïau nad ydynt â mynediad i’r mathau o ddata a gronnir gan gwmnïau fel Google, Facebook, Apple ac ati.

Eglurodd sut yr oedd ffigurau cyfartaledd y diwydiant yn ddiwerth wrth drafod arloesedd. Yn hytrach, rhaid i sefydliadau edrych ar ymylon data o’r fath a gofyn pa brosesau a gweithdrefnau a wnaeth yr un y cant hynny eu dilyn na ddilynwyd gan y gweddill.

Meddai’r Athro Mann: “Edrychwch ar y straeon llwyddiannus a cheisiwch wyrdroi’r prosesau sy’n sail i’r hyn y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud.”

Am ddim, yn berffaith a nawr

Clodd yr Athro Mann ei gyflwyniad drwy ddisgrifio’r ffordd y mae’r egwyddor gyntaf nid yn unig yn gyrru sefydliadau tuag at fodel sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, ond hefyd yn creu system lle y mae popeth yn datblygu tuag at fod am ddim, yn berffaith a nawr.

Rhannwyd enghreifftiau o’r diwydiant yswiriant lle roedd polisïau’n ddiderfyn, am ddim, yn anweladwy, yn dryloyw ac yn uniongyrchol a hefyd o’r diwydiant peiriannau torri glaswellt, sydd â’r nod yn y pen draw o greu glaswellt di-dwf.

Caniataodd y rhain i’r Athro Mann ddiwedd drwy egluro bod arloeswyr llwyddiannus bob amser yn edrych am y pethau anghyson ac yn eu datrys.

“Sicrhewch eich bod yn gwybod ym mhle mae perffaith. Efallai na fyddwch byth yn ei gyrraedd mewn gwirionedd, ond o leiaf rydych chi’n gwybod ym mhle y mae.”

Woman talks to audience
Sarah Lethbridge introduces attendees to Professor Mann's upcoming executive programme and other School events.

Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.

Os nad oeddech yn gallu dod, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.

Bydd yr Athro Mann yn dychwelyd i Ysgol Busnes Caerdydd ar ddydd Llun 29 Ebrill, pan fydd yn cyflwyno Dosbarth Meistr Arloesedd o’r enw: DNAArlesoedd: Canllaw'r pragmatydd i arloesedd.

Cofrestrwch nawr a pharatowch ar gyfer dysgu sut y gallwch chi a’ch busnes gyflawni newid sylweddol arloesol heb fawr o risg mewn marchnadoedd di-drefn ac oes ddi-drefn.

Rhannu’r stori hon

Galluogi ein cysylltiadau ym maes busnes i gael gwybod rhagor gan bartneriaid ac ymarferwyr yn y diwydiant am yr ymchwil ddiweddaraf a datblygiadau allweddol.