Petroleum Experts yn rhoi meddalwedd masnachol
24 Ebrill 2019
Mae Petroleum Experts (Petex), cwmni peirianneg petroliwm a daeareg strwythurol adnabyddus, wedi rhoi 10 trwydded o'u meddalwedd modelu strwythurol a dadansoddi Move i Labordy Seismig 3D Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr.
Mae’r feddalwedd hon a roddwyd yn cyfateb i werth masnachol o £1,334,160.00. Bydd y trwyddedau hyn yn cael eu defnyddio i gefnogi prosiectau ymchwil ôl-raddedig. Defnyddiwyd meddalwedd Move mewn dros 30 o gyhoeddiadau rhyngwladol dros y 5 mlynedd diwethaf, ac mewn prosiectau meistr ac israddedig. Yng Nghaerdydd, mae’r feddalwedd wedi’i defnyddio’n bennaf i fodelu ailysgogiad namau a llif hylif cysylltiedig ar raddfeydd dadansoddi gwahanol.