Trawsffurfio Pwll Nofio Parc Eastville Bryste
16 Ebrill 2019
Mae grŵp o fyfyrwyr BSc Astudiaethau Pensaernïol, a arweinir gan sefydlydd Nudge Group a’r darlithydd gwadd Shankari Raj, wedi dechrau prosiect i adfywio pwll nofio sydd wedi’i esgeuluso ym Mryste.
Adeiladwyd uned Parc Eastville yn rhan o Vertical Studio, rhaglen dair wythnos flynyddol ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 1 a 2 yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, sy’n annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd.
Yn wreiddiol, fe’i adeiladwyd yn bwll nofio ar adeg y Frenhines Fictoria a chafodd y pwll ei ddifrodi gan shrapnel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedyn, fe’i drowyd yn ardd gymunedol yn y 1980au. Ers hynny, mae wedi adfeilio.
A hithau’n breswylydd lleol, nid dyma’r tro cyntaf i Shankari glywed y pwnc o adfywio’r hen bwll nofio’n cael ei drafod, a gwelodd y cyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag e.
Yn ystod y prosiect tair wythnos, cafodd y myfyrwyr eu herio i ymgysylltu â’r gymuned a datblygu tri syniad i drawsnewid y pwll. Canfu’r myfyrwyr mai’r opsiwn gorau sy’n cael ei ffafrio gan y gymuned yw adnewyddu’r pwll Fictoraidd yn bwll nofio awyr agored gyda chyfleuster caffi. Mae’r opsiynau eraill yn cynnwys gardd synhwyraidd a theatr, neu bwll padlo i blant.
Eglurodd y myfyriwr Ian Tsang, “Mae ymdeimlad cryf o dreftadaeth yn y man hwn ac mae pobl yn ei ddefnyddio, ond roeddem am roi ystyr pellach i’r lle.” “Rydym yn ymchwilio i’r syniad o bwll nofio, gan fod llawer o botensial yma. Hoffem ddiogelu’r waliau presennol, a chreu man cymunedol.”
Bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu cynigion i’r gymuned ym mis Ebrill 2019, gyda’r nod o wneud cais am gyllid er mwyn gwireddu’r weledigaeth.
Cafodd Barc Eastville Vertical Studio sylw yng nghyhoeddiad annibynnol Bryste 24/7.