Llwyddiant Byd-eang
1 Ebrill 2019
Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn uchel ar y rhestrau pynciau byd-eang, gan gadw ei safle yn y 100 uchaf ar Restr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc ar gyfer Daearyddiaeth yn 2019.
Ar restr y DU, sy’n newydd ar gyfer 2019, mae’r Ysgol yn yr 20fed safle.
Mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o ragoriaeth addysgu ac ymchwil yr Ysgol yn cyd-fynd â rhestrau a mesurau eraill. Mae’r Ysgol yn y 9fed safle yn y DU (ym maes pwnc Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol) yn Nhablau Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2019 ac yn 8fed yn y DU ar gyfer Cynllunio Gwlad a Thref a Thirlunio yn The Times / Sunday Times Good University Guide 2019.
Mae’r Ysgol yn cynnig ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig sy’n ymwneud â daearyddiaeth gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal â chynllunio, datblygu, dylunio trefol a’r amgylchedd adeiledig.
Mae llwyddiant ehangach Prifysgol Caerdydd yn rhestr QR hefyd yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar yr Ysgol, gyda maes pwnc Pensaernïaeth/Amgylchedd Adeiledig yn y 50 uchaf, yn safle 37. Mae’r Ysgol yn cynnig rhaglen MA Dylunio Trefol ar y cyd gyda Ysgol Pensaernïaeth Cymru.