Athro'r Gyfraith o Gaerdydd yn lansio llyfr mewn symposiwm yn Llundain
16 Ebrill 2019
Cynhaliwyd symposiwm ym mis Ebrill yn Llundain i brofi damcaniaeth llyfr diweddaraf Athro'r Gyfraith o Gaerdydd.
Cynhaliwyd y symposiwm ar 3 Ebrill yng Nghymdeithas Anrhydeddus y Deml Ganol i drafod llyfr diweddaraf yr Athro Norman Doe, Comparative Religious Law: Judaism, Christianity, Islam (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2018).
Mark Hill QC, Athro Anrhydeddus yng Nghaerdydd oedd yn cadeirio’r cyfarfod. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys arweinwyr o gymunedau ffydd Iddewig, Cristnogol a Mwslimaidd, yn ogystal â Meistr y Rholiau a Meistr y Deml. Daeth yr Athro Doe a’r Athro Urfan Khaliq, Pennaeth y Gyfraith i’r digwyddiad.
Roedd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng y Eglwys y Deml a Coexist House ac roedd cadeirydd ei ymddiriedolwyr, Sir Bernard Rix, cyn-farnwr y Llys Apêl, hefyd yn bresennol.
Yn dilyn yr hwyrol weddi yn Eglwys y Deml, lansiwyd llyfr yr Athro Doe. Roedd Syr Andrew McFarlane, Llywydd Isadran y Teuluoedd (a chyn-fyfyriwr LLM mewn Cyfraith Eglwysig ym Mhrifysgol Caerdydd) a'r Arglwydd Woolf, cyn-Arglwydd Brif Ustus, yn bresennol.
Mae llyfr yr Athro Doe yn cynnig ffurfio siarter o egwyddorion cyfraith grefyddol sy'n gyffredin i dair ffydd Abraham er mwyn cael cyd-ddealltwriaeth a chydweithio rhwng y tair crefydd hyn.