Dull 'arloesol' o greu cymuned fwy diogel
15 Hydref 2015
Mae'r gwasanaethau brys yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer wythnos o weithgareddau sy'n ceisio gwneud i bobl deimlo'n fwy diogel yn eu cymuned
Cynhelir yr Wythnos Ddiogelwch rhwng 30 Tachwedd a 4 Rhagfyr yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd a bydd yn cynnwys digwyddiadau ynghylch themâu megis diogelwch ar y ffyrdd ac iechyd da.
Mae Heddlu'r De, Gwasanaeth Tân ac Achub y De, Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Sant Ioan Cymru-Wales a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan.
Mae'r fenter, a gynhelir mewn cydweithrediad â Gweithredu Cymunedol Grangetown, yn rhan o brosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd sy'n creu partneriaeth hirdymor gyda thrigolion yn Grangetown i wneud yr ardal yn lle hyd yn oed gwell i fyw ynddi.
Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Ddiogelwch gan gynnwys arolwg gan yr heddlu i gael gwybod beth yw pryderon trigolion, swyddogion tân yn treulio diwrnod mewn ysgolion, diogelwch dŵr, hyfforddiant cymorth cyntaf a gweithdai trwsio beiciau.
Mae'r trefnwyr hyd yn oed yn ystyried a oes modd cau un o'r ffyrdd am gyfnod byr i alluogi plant i chwarae ar y strydoedd.
Yn ôl Mhairi McVicar, arweinydd prosiect y Porth Cymunedol: "Mae diogelwch cymunedol wedi bod yn thema gyson wrth siarad â thrigolion am faterion sy'n peri pryder iddynt.
"Bydd yr Wythnos Ddiogelwch yn ffordd arloesol a diddorol o fynd i'r afael â hyn yn rhan o'n gwaith gyda'r gymuned.”
Dywedodd Steve Morgan, Rheolwr Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub y De: "Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yno drwy'r wythnos yn trin a thrafod materion fel diogelwch ar y ffyrdd, patrolau troseddau tân, ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr a diogelwch tân yn y cartref. Edrychwn ymlaen at weld ein cymunedau yno."
Dywedodd yr Arolygydd Tony Williams o Heddlu'r De: “Mae gan Gaerdydd hen draddodiad o weithio mewn partneriaeth sy'n helpu i gadw'r ddinas yn ddiogel a gwneud i bobl deimlo'n ddiogel.
“Yn ystod wythnos ddiogelwch Grangetown, byddwn yn rhoi enghreifftiau o'r gwaith sy'n cael ei wneud i greu amgylchedd diogel.”
Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i leihau tlodi yn Affrica is-Sahara.