Menter awyrofod newydd myfyriwr yn hedfan yn uchel
15 Ebrill 2019
Mae busnes awyrofod a sefydlwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr uchel ei pharch yn Seremoni Wobrwyo Mentrau Myfyrwyr Caerdydd.
Arddangosodd y digwyddiad, a drefnir gan Fenter a Dechrau Busnes, Prifysgol Caerdydd, arloesiadau sy’n cynnwys llwyfan i wella iechyd meddwl yn y gweithle, systemau awyrofod, a llwyfan adolygu eiddo rhentu.
Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo gan Tramshed Tech, ac roedd y Seremoni’n gyfle i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr, sydd â chrebwyll am fusnes, gystadlu am £20,000 o arian parod a chefnogaeth.
Rhoddodd Prifysgolion Santander y brif wobr werth £2,500 i SmallSpark, sy’n fenter awyrofod newydd a sefydlwyd gan fyfyriwr MSc Astroffiseg, Joseph Ward.
Dywedodd Joseph, “rwy’n hynod falch o’r holl dîm Datblygu Smallspark am yr holl waith caled y maen nhw wedi’i wneud; rydym ni wedi gweithio drwy'r nos ar sawl achlysur i gyrraedd y pwynt hwn, ond o’r diwedd mae’n dechrau dwyn ffrwyth. Rwy’n methu aros i’n tîm dyfu ychydig yn fwy cyn bo hir. Dwi eisiau gwneud Spallspark y prif ddarparwr o gerbydau lansio bach yn Ewrop cyfan ymhen y degawd, ac yn gwmni y gall Cymru fod yn falch ohono.”
Hefyd, bydd SmallSpark yn cael pecyn o gefnogaeth gyfreithiol gan gwmni cyfreithiol o Gaerdydd, Darwin Gray.
Meddai Partner Rheoli Darwin Gray, Stephen Thompson: “Mae wedi bod yn fraint cael fy nghynnwys yn y seremoni wobrwyo hon, a gweld cymaint o fyfyrwyr a graddedigion ysbrydoledig gyda syniadau anhygoel. Llongyfarchiadau i’r enillydd, Joseph. Mae Darwin Gray wrth ei fodd yn cynnig cefnogaeth gyfreithiol i SmallSpark yn rhan o’r wobr. Edrychwn ymlaen at weld beth a ddaw ohonyn nhw. Heb os, bydd yn gyffrous.”
Aeth yr ail wobr i Adesuwa Aghahowa am ei chwmni Asake Beauty, sef marchnad ar-lein sy’n cysylltu cwsmeriaid â’r gwasanaethau harddwch sydd fwyaf addas i’w math o wallt.
Yn rhan o’r dathliadau, rhannodd cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, James Taylor (Prifysgol Caerdydd, BSc a PGCE, 2005) ei brofiadau o fagu’r busnes llwyddiannus, SuperStars.
Dywedodd James, ‘Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r gwobrau ac mae'n hyfryd gweld y gefnogaeth wych mae Prifysgol Caerdydd yn ei chynnig i'n cenhedlaeth nesaf o Entrepreneuriaid!’
Cyhoeddwyd hefyd fod Mohamed Binesmael, myfyriwr Doethur mewn Athroniaeth (Peirianneg) wedi ennill cronfa Cymrodoriaeth Peirianwyr mewn Busnes. Mae menter newydd Mohamed, Route Konnect yn defnyddio technolegau arloesol i ganfod llifau traffig mewn amser real.
Meddai Mohamed: ‘Braint oedd ennill gwobr y Peirianwyr yn y seremoni. Bydd yn sbarduno ein menter drwy’r camau nesaf. Mae’r wobr yn cynnig llwybr at gyfleoedd a phartneriaid sydd hyd yn oed yn fwy.’
Cefnogwyd Seremoni Wobrwyo Mentrau Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 2019 yn hael gan Brifysgolion Santander, TramshedTech, Darwin Gray, WorkBench, a Chymrodoriaeth Peirianwyr mewn Busnes