Yr Athro Sarah Lupton yn cael canmoliaeth uchel am ddigwyddiad DPP Contractau ‘difyr a diddorol’ yn yr RIBA
16 Ebrill 2019
Yn ddiweddar cyflwynodd yr Athro Sarah Lupton Ddiwrnod DPP Contractau Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn Llundain.
Nod y diwrnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) oedd cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cynadleddwyr o gontractau a sut i ddewis y math priodol o gontract penodi ac adeiladu ar gyfer eu busnesau.
Yn ystod y digwyddiad, manylodd yr Athro Lupton ar bwysigrwydd hanfodol contractau, gan amlinellu manylion y Gwasanaethau Proffesiynol a Chontractau Adeiladu RIBA newydd a gyflwynwyd yn 2018.
Disgrifiodd adolygiad diweddar RIBA o’r digwyddiad ei chyflwyniad fel un ‘rhyfeddol o eglur’, gyda Sarah yn defnyddio ei harbenigedd fel pensaer a chyn-aelod o’r bwrdd ARB.
Bydd yr Athro Lupton yn cynnal chwe gweithdy arall fel rhan o raglen DPP RIBA. Cynhelir y gweithdai ledled y DU. Ewch i wefan DPP Contractau RIBA i gael rhagor o fanylion a gwybodaeth am gadw lle.
Mae’r Athro Sarah Lupton yn cyfarwyddo Gradd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio, a’r Diploma Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3) yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Mae hi’n bartner i benseiri Lupton Stellakis ac yn Gymrodeddwr Siartredig, dyfarnwr a thyst arbenigol gyda chysylltiadau helaeth â’r diwydiant adeiladu a’r alwedigaeth bensaernïol. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd dros Banel Atebolrwydd CIC, yn Hyrwyddwr Atebolrwydd CIC ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Llywydd RIBA ar gyfer Datrys Anghydfodau. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni ôl-raddedig, cysylltwch yn uniongyrchol â Sarah lupton@caerdydd.ac.uk.