Ffigurau trais difrifol ar gyfer 2018
12 Ebrill 2019
Er gwaethaf yr holl achosion diweddar o drais cyllyll a lladd yn rhai o ddinasoedd y DU, bu gostyngiad o 1.7% yn nifer y bobl a niweidiwyd mewn trais difrifol yng Nghymru a Lloegr rhwng 2017 a 2018, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae’r astudiaeth yn edrych ar ddata yn ôl oedran a rhyw ac mae’n seiliedig ar sampl gwyddonol o 126 o adrannau achosion brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio yng Nghymru a Lloegr. Mae pob un yn aelodau ardystiedig o’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Goruchwylio Trais (NVSN), sydd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol dros y 18 mlynedd diwethaf.
Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, un o awduron yr astudiaeth, o’r Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd: “Nid yw’r lefelau trais yn Lloegr a Chymru wedi newid yn sylweddol rhwng 2017 a 2018. Fodd bynnag, mae’r duedd yn y tymor hir yn dangos gostyngiad mawr mewn trais difrifol; rhwng 2010 a 2018 cafwyd gostyngiad o 41% o ran pobl oedd angen triniaeth mewn adrannau achosion brys yn dilyn trais.”
Ar y cyfan, amcangyfrifir bod 187,584 o bobl wedi gorfod mynd i adrannau achosion brys yn 2018 (3,163 yn llai nag yn 2017). Mae hyn yn dilyn cynnydd bychan (1%) mewn trais NVSN blynyddol a gofnodwyd yn 2017, o’i gymharu â 2016.
Bu gostyngiad o 2.5% (3,297) o ran anafiadau treisgar ymhlith bechgyn a dynion, ond ni fu newid sylweddol yn niferoedd yr anafiadau treisgar ymhlith merched a menywod (hyd at 0.24%; 134) o’i gymharu â 2017.
Penwythnosau yn ystod mis Gorffennaf oedd yr adegau pan oedd pobl yn mynd i unedau achosion brys amlaf ar ôl achos o drais.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, dynion rhwng 18 a 30 oed oedd y rhai oedd fwyaf tebygol o gael anaf sy’n gysylltiedig â thrais yn 2018.
Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf ymhlith plant (0-10 mlwydd oed, gostyngiad o 9.3%; 11-17 mlwydd oed, gostyngiad o 7.4%). Bu cynnydd mewn trais sy’n effeithio ar bobl 51+ oed (cynnydd o 5.2%) o’i gymharu â 2017.
I’r gwrthwyneb i’r gostyngiad bychan yn gyffredinol, mae trais difrifol sy’n gysylltiedig â chyllyll wedi cynyddu yn ôl data ar wahân ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty.
Dywedodd yr Athro Shepherd: “Mae’n bosibl bod nifer o ffactorau yn gyfrifol am y cynnydd mewn trais sy’n gysylltiedig ag arfau gan gynnwys gweithgaredd gangiau, cynnydd yn y rhai sy’n cario arfau a defnydd o gyffuriau. Caiff hyn ei waethygu gan newidiadau i strategaeth stopio a chwilio yr heddlu.
“Mae uwch-glinigwyr Adrannau Achosion Brys mewn sefyllfa gref i arwain ymgysylltiad y GIG ag awdurdodau lleol a’r heddlu, o fewn eu cyfrifoldebau statudol ar y cyd, i leihau trais mewn trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig y mae eu Hadrannau Achosion Brys yn gyfrifol amdanynt.”
Er nad yw’r astudiaeth yn archwilio’r rhesymeg dros nifer yr achosion o drais, mae’n dyfynnu sawl esboniad posibl ar gyfer y gostyngiad bychan, gan gynnwys plismona wedi’i dargedu gwell, a chydweithio rhyngasiantaethol gwell.
Mae Model Caerdydd ar gyfer Atal Trais - yn seiliedig ar rannu data rhwng ysbytai, heddlu ac awdurdodau lleol - wedi’i fabwysiadu gan nifer o ddinasoedd yn y DU, ac mewn rhai gwledydd eraill gan gynnwys yr UDA. Mae’r model hwn, a ddatblygwyd yng Nghaerdydd, yn adnabod ardaloedd â phroblemau trais nad yw’r heddlu’n gwybod amdanynt ac wedi cyfrannu at leihad sylweddol mewn troseddau treisgar dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae’r Set Data Gofal Brys newydd, a gyflwynwyd mewn Adrannau Achosion Brys yn Lloegr ym mis Hydref 2017, yn gwella lefel y manylder ynghylch trais a gofnodwyd mewn Adrannau Achosion Brys, gan wella ansawdd y wybodaeth iechyd cyhoeddus sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu Model Caerdydd.
Daeth yr Athro Shepherd i’r casgliad: “Mae’r duedd o ran trais yn mynd yn y cyfeiriad cywir ond mae modd atal mwy o achosion gydag ymdrech amlasiantaeth ymroddedig.”